Mannau digwyddiadau y Pierhead
Mae’r Pierhead yn adeilad rhestredig gradd 1 ar ystâd y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’r Pierhead yn un o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas, ac mae wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, sydd bellach wedi ei adfywio. Mae nifer o ystafelloedd trawiadol yn yr adeilad y gellir cynnal digwyddiadau ynddynt.