Mae’r Pierhead yn adeilad rhestredig gradd 1 ar ystâd y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’n un o dirnodau mwyaf adnabyddus Caerdydd, ac fe’i hadeiladwyd ym 1897 yn bencadlys Cwmni Doc Bute. Mae’r Pierhead yn un o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas, ac mae wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, sydd bellach wedi ei adfywio. Mae nifer o ystafelloedd trawiadol yn yr adeilad y gellir cynnal digwyddiadau ynddynt.
Neuadd Fawr
Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:
- Cynadleddau;
- Derbyniadau;
- Darlithoedd;
- Ciniawau nos;
- Digwyddiadau rhyngweithio.
Capasiti:
Derbyniad lle bydd pobl yn sefyll: 140
Eisteddle ar ffurf theatr : 100
Adloniant/stondinau: 100
I fwyta: 100
Sylwch fod yr holl capasiti a ddangosir yn seiliedig ar y dodrefn lleiaf posibl yn yr ystafell. Gall y capasiti amrywio yn dibynnu ar weithgareddau eraill y Senedd.
Cyfleusterau:
- Chwe thaflunydd Panasonic PT-D4000E HD annibynnol, sy’n gallu taflunio lluniau, sioe sleidiau, cyflwyniadau a ffilmiau;
- Consol cymysgu sain digidol Yamaha 01V96;
- System seinydd stereo;
- Is-gymysgwr sain Yamaha MG102C;
- Pedwar meicroffon i’w clipio ar ddillad;
- Pum meicroffon i’w rhoi ar ben bwrdd.
Gellir cynnal digwyddiadau yn y Pierhead:
Dydd Llun a Dydd Gwener 09.30 –16.30
O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 09.30 –20.00
Mesuriadau Prif Neuadd y Pierhead
15 x 13 Metr
Oriel y Dyfodol
Lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal:
- Derbyniadau;
- Digwyddiadau rhyngweithio.
Mae Oriel y Dyfodol ar gael:
Dydd Llun a Dydd Gwener 09:30 –16:30
O Ddydd Mawrth i Ddydd Iau 09:30 –20:00
Mesuriadau Oriel y Dyfodol:
14 x 6 metr
Capasiti:
Mae’r ystafell yn gallu dal: 60
Sylwch fod yr holl capasiti a ddangosir yn seiliedig ar y dodrefn lleiaf posibl yn yr ystafell. Gall y capasiti amrywio yn dibynnu ar weithgareddau eraill y Senedd.
Mynediad
Mae pob llawr yn y Pierhead yn gwbl hygyrch.