03/03/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad ac Atebion

Cyhoeddwyd 27/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2017 i'w hateb ar 3 Mawrth 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd yn derbyn y gwahoddiad gan fusnesau lleol i gwrdd â hwy ac ystyried gwir effaith ffordd osgoi Caernarfon cyn cyhoeddi'r ymchwiliad cyhoeddus yn sgil tystiolaeth sy'n nodi mai dim ond 2 y cant o bobl leol sy'n cefnogi'r llwybr dewisol? (WAQ73078)

Derbyniwyd ateb ar 3 Mawrth 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): The Preferred Route performed highly against the WelTAG criteria used to appraise the effectiveness of the options. A Public Local Inquiry will be held in June this year and all alternatives will be considered by the Inspector. Local businesses will be able present their concerns at the Inquiry.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pwy sydd â'r pŵer i orfodi perchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau i ddatgelu manylion eu cyfrifon, a sut y gallai unigolyn preifat fynd ati i wneud cais am y manylion hynny? (WAQ73077)

Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant): Depending on the legal status of their business, park home site owners may have to provide audited accounts to Companies House.