07/06/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 01/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/06/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 31 Mai 2017 i'w hateb ar 7 Mehefin 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.


(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r pwysoliadau a roddwyd i'r meini prawf asesu a ddefnyddiwyd yng ngham un o'r broses o flaenoriaethu gorsafoedd rheilffordd newydd? (WAQ73619)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a gafodd cymarebau cost / budd eu cyfrifo ar gyfer pob un o'r gorsafoedd a ystyriwyd yng ngham un o'r broses o flaenoriaethu gorsafoedd rheilffordd newydd, ac os felly, sut y cawsant eu cyfrifo a'u defnyddio yn y broses arfarnu? (WAQ73620)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a ddefnyddiwyd, yng ngham un o'r broses o flaenoriaethu gorsafoedd rheilffordd newydd, gymarebau cost / budd a oedd wedi'u cynnwys yn asesiadau'r Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y gorsafoedd ar y rhestr hir o 46 o ymgeiswyr, ac os felly sut? (WAQ73621)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r sgorau ar gyfer pob maen prawf a ddefnyddiwyd, yn ogystal â'r sgorau cyffredinol, ym mhob asesiad o'r 46 o orsafoedd newydd a ystyriwyd yng ngham un o'r broses o flaenoriaethu gorsafoedd rheilffordd newydd? (WAQ73622)

Derbyniwyd ateb ar 7 Mehefin 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): I refer the Assembly Member to my recent letter to Assembly Members on 6 June which includes the Stage 1 Assessment Report on New Rail Stations Prioritisation containing the transport case assessment criteria.
The stage two assessment will look in more detail at the strength of the financial and economic case for a new railway station, including advice from Network Rail on deliverability. This is an on-going and iterative process and once the assessment of the priority list is completed there will be an opportunity to then consider the next group of regional stations.