13/04/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/04/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Ebrill 2017 i'w hateb ar 13 Ebrill 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau amserlen gwaith swyddogion Llywodraeth Cymru ar arddangosfeydd symudol o anifeiliaid? (WAQ73353) Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw natur y gwaith y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd o ran arddangosfeydd symudol o anifeiliaid? (WAQ73354) Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A yw swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet mewn cysylltiad â defnyddwyr ynghylch arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, fel Sioe Sir Benfro a Sioe Frenhinol Cymru? (WAQ73355) Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa sefydliadau ac unigolion y mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â hwy hyd yn hyn (6 Ebrill 2017) ynghylch arddangosfeydd symudol o anifeiliaid? (WAQ73356)
 
Derbyniwyd ateb ar 18 Ebrill 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig(Lesley Griffiths)(Lesley Griffiths): A public consultation on mobile animal exhibits (MAEs), including the potential introduction of a licensing or registration scheme for MAEs, is scheduled to begin before summer recess. Stakeholders and others with an interest in MAEs will be notified when the consultation is launched.

A survey to capture data on MAEs in Wales has recently been conducted by Local Authorities (LAs) in Wales as part of the Partnership Delivery Project.  The survey included visits and telephone conversations with MAE proprietors and concluded on 31 March 2017.  The results from this survey will help inform the consultation.

As stated in my Written Statement of 15 December 2016 I have met with the UK Government’s Parliamentary Under Secretary of State for Rural Affairs and Biosecurity, Lord Gardiner of Kimble, to discuss MAEs. Officials also attend regular meetings with Defra and the Devolved Administrations.