07/02/2017 - Cyngion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 31/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2017

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 7 Chwefror 2017
 

Cynigion a gyflwynwyd ar 31 Ionawr 2017

 

NDM6228
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
  2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
  3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
  4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
  5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
  6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
  7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
  8. Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.


    Diogelu Dyfodol Cymru

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Chwefror 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:

NDM6228

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.   

3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.

'UK Government White Paper’

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl.