09/05/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 02/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/05/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 9 Mai 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Mai 2017

 

NDM6298 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Ionawr 2017.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 7 Ebrill 2017.

NDM6299 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Undebau Llafur (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.