Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 29 Mawrth 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Mawrth 2017
Dadl Fer
NDM6273 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd?
NDM6274
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.
NDM6276 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017.
NDM6275 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2017.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6274
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Mawrth 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6274
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
'Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013'
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.
Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol.
'Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2014-2017'