08/03/2016 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 08/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2016

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016 a dydd Mercher 16 Mawrth 2016

Toriad: Dydd Llun 21 Mawrth 2016 – Dydd Mawrth 5 Ebrill 2016

Diddymiad y Cynulliad: 6 Ebrill 2016 – 5 Mai 2016

 

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:  (cyfanswm o 50 munud)
    • Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 (10 munud)
    • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 (10 munud)
    • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 (10 munud)
    • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016 (10 munud)
    • Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 (10 munud)
  • Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (15 munud)
  • Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 (15 munud)
  • Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Menter mewn perthynas â darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y darpariaethau ym Mil Mewnfudo'r DU mewn perthynas â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum rhif 4) ar gyfer y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac ati (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â rhannu data ar gyfer prentisiaethau (30 munud)
  • Dadl ar y cynllun addasu Tai (60 munud)


 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2016

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
  • Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (15 munud)


Busnes y Cynulliad

  • Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y tair eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
    • Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad (5 munud)
    • Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26A mewn perthynas â Deddfau Preifat y Cynulliad a Rheol Sefydlog 26B mewn perthynas â Deddfau Hybrid y Cynulliad (5 munud)
    • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 18 a 30A mewn perthynas â Gwelliannau Amrywiol (5 munud)
    • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru? (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)