13/11/2018 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 13/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc (30 munud)
  • Dadl: Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 (60 munud)
  • Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru? (60 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Datganiad gan Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig (30 munud)

Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 
Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (60 munud)
  • Dadl Fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf ar Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (30 munud) 
  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf ar Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (30 munud)
  • Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru" (60 munud)

Busnes y Cynulliad

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru) (45 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
    • Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018,
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018,
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) 2018,
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Ryngwladol a Llongau Rhyngwladol) (Cymru) 2018, a
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018.
  • Dadl Cyllideb Ddrafft 2019-20 (90 munud)

 

Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (45 munud)
  • Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) (120 munud)

 Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) (30 munud)