Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2011 a dydd Mercher 23 Mawrth 2011
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2011 a dydd Mercher 30 Mawrth 2011
Diddymiad y Cynulliad 1 Ebrill 2011 – 5 Mai 2011
………………………………………….
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Yr Iaith Gymraeg (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes: Llywodraethu Addysg Uwch ac Addysg Bellach (30 munud)
Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Strategaeth Llyfrgell Newydd (30 munud)
Cynnig i drafod y tair eitem a ganlyn gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog 7.20 ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licensing (Notice Appeals) (Wales) Regulations 2011
Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licensing (Civil Sanctions) (Wales) Order 2011
Cynnig i gymeradwyo’r Marine Licensing (Appeals Against Licencing Decisions) (Wales) Regulations 2011
Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) (5 munud)
Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 23 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (30 munud)
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 munud)
Busnes heblaw busnes y Llywodraeth:
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 (30 munud)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 'Dargedau Bioamrywiaeth' (60 munud)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar 'Hyfforddiant a sgiliau dwyieithog yn y gweithle a rhyngwyneb busnes â’r cyhoedd’ (60 munud)
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol i Ddrafftio Mesurau Llywodraeth Cymru: Gwersi a ddysgwyd o’r tair blynedd gyntaf (60 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cyfnod Pleidleisio
Dadl fer (30 munud)
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)
Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r Gorchymyn Cychwyn Deddfau’r Cynulliad (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r Rheoliadau Drafft 2011 Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 (Cymru) (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r Rheoliadau drafft Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r Gorchymyn ar Hawl Plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (15 munud)
Cynnig i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog 7.20 ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)
Cynnig i gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 2011
Cynnig i gymeradwyo fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
Dadl cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 am y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 30 Mawrth 2011
Busnes y Llywodraeth:
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol oes (30 munud)
Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: ‘Hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’ (60 munud)
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: ‘Triniaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr y lluoedd arfog’ (60 munud)
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cyfnod Pleidleisio
Dadl Fer (30 munud)