22/03/2011 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2011 a dydd Mercher 30 Mawrth 2011

Diddymiad y Cynulliad 1 Ebrill 2011 – 5 Mai 2011

………………………………………….

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru (45 munud)

  • Datganiad Busnes a Chwestiynau (30 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Gorchymyn Cychwyn Deddfau’r Cynulliad (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Rheoliadau Drafft 2011 Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 (Cymru) (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r Rheoliadau drafft Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (15 munud)

Cynnig i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog 7.20 ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud)

  • Cynnig i gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 2011

  • Cynnig i gymeradwyo fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Senedd y DU ynghylch Diwygio Lles (15 munud)

  • Dadl cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 23.57 am y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) (60 munud)

Yn unol  â Rheol Sefydlog  23.49, caiff gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Mesur arfaethedig.

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Mesur arfaethedig yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 23.58. Os caiff y cynnig ei gytuno:

  • Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 23.58 i gymeradwyo’r Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) (5 munud)

Dydd Mercher 30 Mawrth 2011

Busnes y Llywodraeth:

  • Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (30 munud)

  • Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (30 munud)   

Busnes heblaw Busnes y Llywodraeth:

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: ‘Hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’ (60 munud)

  • Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: ‘Triniaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr y lluoedd arfog’ (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

  • Cyfnod Pleidleisio

  • Dadl Fer (30 munud)