Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 3 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG (45 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeirnod y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Rhaglen Gwella Bywydau Anableddau Dysgu (45 munud)
- Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota (60 munud)
Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (60 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
- Dadl Fer - Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 10 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (45 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) (15 munud)
- Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 (30 munud)
- Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (60 munud)
Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru (60 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (60 munud)
- Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud)
- Dadl Fer - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) (30 munud)
Dydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhyddfreiniau Rheilffyrdd Eraill sy'n Gwasanaethu Cymru a Buddsoddiad Seilwaith Rheilffyrdd (45 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gwasanaethau Cynghori (45 munud)
- Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (15 munud)
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
- Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Cynulliad
- Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Datganiad: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Awtistiaeth (Cymru) (30 munud)
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (30 munud)
- Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2017 - 18 (30 munud)
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheiny sydd ag incwm isel (60 munud)
- Dadl Fer – John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)