Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 20/06/2023

Cyhoeddwyd 20/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/06/2023   |   Amser darllen munudau

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

 

Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                               

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ (30 munud)
  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio’r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru - diweddariad (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar ddeddfwriaeth bwyd iach (30 munud)
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (5 munud)
  • Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 28 Mehefin 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Adam Price (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1340: Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Ddatblygu’r Gweithlu Ôl-16 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (30 munud)
  • Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024 (15 munud)
  • Dadl: Cysylltiadau Addysg â Chyflogwyr (60 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud)
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022 – 23 (30 munud)
  • Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Luke Fletcher (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) (30 munud)

 

 

 

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth                                                                           

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd 2020-21 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio’r cynllun Ffermio Cynaliadwy (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Cenedl Masnach Deg – nodi 15 mlynedd (30 munud)
  • Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (15 munud)
  • Dadl: Amcanion Polisi a Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru – adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (90 munud)

 

 

 

Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2023

 

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25 (60 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Craffu ar Fframweithiau Cyffredin (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)