Enwebu'r Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 11/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2020   |   Amser darllen munudau

Gellir enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ol etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn wedi hynny, yn amodol ar benderfyniad y Senedd i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn gwahodd y Senedd i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.


Amlinellir y broses ar gyfer enwebu Prif Weinidog isod:

Enwebu'r Prif Weinidog

Galw cofrestr yr Aelodau

Os bydd angen cynnal pleidlais drwy alw cofrestr, bydd y Llywydd yn gofyn i bob Aelod sy’n bresennol yn y Siambr (yn nhrefn y wyddor) ddatgan enw’r ymgeisydd y maent yn ei ffafrio.

Bydd cyfle i’r Aelodau ymatal rhag pleidleisio hefyd. Ni chaniateir i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio. Caniateir i Aelodau sydd wedi’u henwebu i’w penodi’n Brif Weinidog bleidleisio.

Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu a bod y broses o alw cofrestr yn arwain at ganlyniad cyfartal (neu os bydd dau ymgeisydd ar ol wedi i’r gweddill gael eu tynnu o’r broses), bydd pleidlais drwy alw cofrestr yn digwydd eto.

Os bydd mwy nag un Aelod wedi’u henwebu heb i’r un ohonynt gael mwy na hanner y pleidleisiau, bydd yr ymgeisydd sydd a’r nifer lleiaf o bleidleisiau’n cael ei dynnu o’r broses. Bydd pleidleisio drwy alw cofrestr yn digwydd eto nes bydd un ymgeisydd wedi cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.

Canlyniad yr Enwebiad

Bydd y Llywydd yn argymell i’w Mawrhydi yn syth y dylai’r Aelod a enwebwyd gan y Senedd gael ei benodi’n Brif Weinidog. Mae’n bosibl y bydd y sawl a enwebwyd i’w benodi’n Brif Weinidog yn traddodi araith yn syth ar ol ei enwebu.