Model Cadw Pwerau i Gymru

Cyhoeddwyd 24/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/09/2020   |   Amser darllen munudau

Cafodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ei diwygio gan Ddeddf Cymru 2017, a ddarparodd ar gyfer setliad datganoli newydd i Gymru. Mae’r Model Cadw Pwerau a sefydlwyd o dan Ddeddf 2017 yn caniatáu i Senedd Cymru ddeddfu ar faterion nas cadwyd gan Senedd y DU.

Er hynny, mae nifer o brofion cyfreithiol y mae’n rhaid eu pasio o dan y Model Cadw Pwerau. Er enghraifft, ni chaiff Deddfau’r Senedd ymwneud ag unrhyw fater a restrir ymysg y rhai a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A newydd i Ddeddf 2006 (megis caethwasiaeth fodern, trydan, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, meddyginiaethau). Mae llawer o’r ‘pynciau tawel’ o dan hen Atodlen 7 i Ddeddf 2006 bellach wedi cael eu neilltuo’n benodol, er enghraifft, cyflogaeth, mewnfudo ac amddiffyn y deyrnas. Hefyd, rhaid i Ddeddfau’r Senedd beidio â thorri dim un o’r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 7B newydd i Deddf 2006, er enghraifft rhaid i Ddeddfau’r Cynulliad beidio ag addasu cyfraith breifat (megis cyfraith cytundebau, cyfraith camweddau, cyfraith eiddo) oni bai ei bod at ddiben datganoledig, nac ychwaith addasu rhai troseddau (megis troseddau difrifol yn erbyn y person a throseddau rhywiol).