Cwestiynau cyffredin - Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2020   |   Amser darllen munudau

Beth yw cylch gwaith y Pwyllgor?

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2016 i gyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Sut mae'r Pwyllgor yn dewis ei ymchwiliadau?

Mae'r Pwyllgor fel arfer yn seilio ei ymchwiliadau ar adroddiadau gwerth am arian gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r Pwyllgor hefyd yn cychwyn ei ymchwiliadau ei hun ac yn cymryd i ystyriaeth sylwadau gan grwpiau â diddordeb a'r cyhoedd mewn perthynas â materion o wariant cyhoeddus sy'n dod o fewn ei gylch gwaith.

A all y Pwyllgor helpu gyda fy achos unigol?

Nid yw'r Pwyllgor yn gallu ymchwilio i achosion unigol neu gynorthwyo unigolion sy'n ceisio iawn. Dylai aelodau o'r cyhoedd sy'n ceisio cymorth o'r fath gysylltu â'u Haelodau o'r Senedd.

A allaf fynychu sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor?

Gallwch, mae sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor yn agored i'r cyhoedd. Gallwch gael manylion am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad ar ein gwefan.

A allaf wylio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar-lein?

Gallwch, mae ein holl sesiynau ar gael i'w gwylio ar www.senedd.tv, naill ai'n fyw neu o'r archif.

Ble alla i gael gwybod am waith blaenorol y Pwyllgor?

Mae gwaith y 4ydd Cynulliad ar ein gwefan lle y gallwch ddod o hyd i ddogfennau fel papurau cyfarfodydd blaenorol, adroddiadau, trawsgrifiadau, tystiolaeth ysgrifenedig ac ymatebion y llywodraeth