Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau absenoldeb teulu hael i'ch cefnogi i reoli’ch bywyd teuluol, p'un a yw hynny'n absenoldeb mamolaeth, cyd-rianta (tadolaeth), mabwysiadu neu'n absenoldeb rhiant a rennir. Mae gennym hefyd bolisi seibiant gyrfa sy'n eich galluogi i gymryd hyd at bum mlynedd i ffwrdd o'r gwaith ar absenoldeb di-dâl os byddwch yn penderfynu cymryd seibiant o'r gwaith i astudio neu deithio, i wneud gwaith gwirfoddol, neu i ganolbwyntio ar gyfrifoldebau gofalu.