Beth alla i ei ddisgwyl yn ystod y cam asesu a chyfweld?

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad efallai y gofynnir i chi gwblhau asesiad, gall hwn fod yn asesiad ymarferol neu ysgrifenedig a gynlluniwyd i asesu'r sgiliau a'r galluoedd penodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Rydym yn cynnal canolfannau asesu o bryd i’w gilydd hefyd.

Bydd y cyfweliad ei hun fel arfer yn cynnwys panel o dri unigolyn. Bydd y cyfweliad yn un strwythuredig a fydd yn cynnwys cyfres o gwestiynau yn seiliedig ar yr ymddygiadau cymhwysedd craidd a'r meini prawf sy'n berthnasol i'r swydd a nodwyd yn y swydd ddisgrifiad.

Bydd y cwestiynau a ofynir yn eich galluogi i ddangos i'r panel sut mae eich profiad gwaith a'ch profiadau personol yn awr neu yn y gorffennol yn eich gwneud yn briodol ar gyfer y swydd.

Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau am y swydd hefyd.