Beth yw’r Cod Ymddygiad?

Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r Cod Ymddygiad yn disgrifio'r safonau ymddygiad sy'n ofynnol gan yr holl gyflogeion.

Fel gweithiwr mewn sefydliad a etholir yn ddemocrataidd, disgwylir i chi ymddwyn mewn ffordd na fydd yn dwyn anfri ar y Senedd nac yn achosi embaras a rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau mewn ffordd onest a diduedd bob amser.

Wrth gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, byddwch yn sicrhau eich bod yn cadw at y safonau a ddisgwylir gan bawb ohonom sy'n cefnogi’r Senedd o ran uniondeb cymeriad, ymddygiad a sicrhau lles y cyhoedd wrth gyflawni'n gwaith.

Mae copi o'r Cod Ymddygiad yn cael ei rannu â phob ymgeisydd llwyddiannus, ond os hoffech gael copi cyn hyn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm recriwtio drwy anfon neges at swyddi@senedd.cymru.