Mae gen i anabledd. Ydych chi’n gallu darparu ar gyfer fy anghenion yn ystod y broses recriwtio?

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd achrededig, yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

Os oes angen unrhyw gymorth, neu unrhyw addasiadau yr ydych yn dymuno eu cael er mwyn gwneud eich cais, dylech gysylltu â'n tîm recriwtio ar swyddi@senedd.cymru cyn gynted â phosibl cyn y dyddiad cau i drafod eich anghenion.

Wrth wneud eich cais, llenwch yr adran berthnasol i ddweud wrthym pa addasiadau neu gymorth y gallai fod eu hangen arnoch yn ddiweddarach yn y broses recriwtio. Er enghraifft, efallai y bydd angen mynediad ar gyfer cadair olwyn ar gyfer y cyfweliad, neu os ydych yn fyddar, Gweithiwr Proffesiynol Gwasanaeth Iaith.

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn cael cyfle i drafod unrhyw addasiadau angenrheidiol â'n cynghorwr iechyd galwedigaethol, a byddwch hefyd yn cael asesiad llawn ar gyfer defnyddio offer sgrin arddangos. Bydd darparu'r wybodaeth hon yn ein helpu i ystyried sut y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion yn rhesymol.

Yn Comisiwn y Senedd, rydym wedi ymrwymo i wneud pob addasiad rhesymol er mwyn galluogi ein cyflogeion ag anableddau i ymgymryd â'u dyletswyddau'n effeithiol.