Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 16/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/02/2024   |   Amser darllen munudau

Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus

Mae Senedd Cymru ("Senedd") wedi ymrwymo i ganiatáu i’w wybodaeth gael ei hailddefnyddio, lle bynnag y bo hynny’n bosibl ac yn rhesymol. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais i ail-ddefnyddio ein gwybodaeth, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin a nodir isod. Mae fersiwn amgen, hwylus i'w argraffu yn gael hefyd Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus, Word 1.21 MB.docx
Mae Rheolidau Ailddefynyddio Gwyboaeth Sector Cyhoeddus 2015 (y Rheoliadau GSC) yn sefydlu ffrawaith ar gyfer hwyluso'r broses o ailddefynyddio gwybodaeth ac yn ategu mynediad presennol at ddeddfwriaeth ynghylch gwybodaeth fel Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) a Rheolidau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA).

C1: Beth yw diben y Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus?

Mae’r Rheoliadau GSC wedi’u cynllunio i helpu i ddatgloi gwerth gwybodaeth sector cyhoeddus ac i ganiatáu i’r adnoddau hyn gael eu hailddefnyddio at ddibenion masnachol.

Mae DRhG a RhGA yn darparu hawl statudol i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, yn amodol ar eithriadau cyfreithiol mewn achosion penodol. Fodd bynnag, er bod DRhG a RhGA yn rhoi hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir yn gyhoeddus, nid yw’n rhoi hawl yn awtomatig i’r ymgeisydd ail-ddefnyddio’r wybodaeth honno. Mae’r Rheoliadau GSC wedi’u cynllunio i’ch galluogi i wneud cais i ail-ddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, tryloywder, peidio â gwahaniaethu a chysondeb.

Mae’r Rheoliadau GSC yn gosod y prif rwymedigaethau a ganlyn ar gorff sector cyhoeddus:

  • cyhoeddi rhestr o’i ddogfennau sydd ar gael i’w hailddefnyddio. Gelwir y rhestr hon yn Gofrestr Asedau Gwybodaeth. Ar hyn o bryd, mae Arweiniad i wybodaeth y Senedd wedi’i chynnwys o fewn ei Gynllun Cyhoeddi;
  • darparu datganiad clir ar y trefniadau ar gyfer ailddefnyddio ei wybodaeth, gan gynnwys setiau data;
  • esbonio’n glir unrhyw gostau perthnasol ar gyfer ailddefnyddio ac unrhyw delerau ac amodau trwyddedu;
  • prosesu ceisiadau ar gyfer ailddefnyddio gwybodaeth mewn modd amserol, yn agored ac yn dryloyw, a thrwy brosesau teg a cyson, a hynny heb wahaniaethu; a
  • sefydlu proses gwyno cyflym a hygyrch.
C2: Beth yw ystyr ‘ailddefnyddio’?

Yn gyffredinol, caiff gwybodaeth ei chynhyrchu gan y Senedd yn rhan o’i ddyletswydd statudol i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus (ei dasg gyhoeddus). Bydd ailddefnyddio’r wybodaeth honno yn digwydd pan fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddiben arall sy’n wahanol i’w ddiben gwreiddiol.

Nid yw’r Rheoliadau GSC yn ei wneud yn ofynnol i’r Senedd ganiatáu i’w ddogfennau gael eu hailddefnyddio. Fodd bynnag, lle rydym yn caniatáu i un parti ailddefnyddio gwybodaeth at ddiben sydd y tu allan i gwmpas ein tasg gyhoeddus, mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried ceisiadau gan bartïon eraill mewn modd teg a thryloyw.

Lle y caiff ailddefnyddio gwybodaeth gan fwy nag un parti ei ganiatáu, rhaid i hyn fod ar yr un telerau ac amodau ar gyfer categorïau tebyg o ail-ddefnyddio.

C3: Pa wybodaeth y byddwch yn caniatáu i mi ei hailddefnyddio?

Yn gyffredinol, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu i’r holl ddogfennau a restrir yn ei Ganllaw Gwybodaeth a setiau data a gyhoeddwyd (oni nodir yn wahanol) dan ei Drwydded Agored (yn seiliedig ar y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol) gael eu hailddefnyddio. Os hoffech ail-ddefnyddio dogfen nad yw wedi’i rhestru yn y Cynllun Cyhoeddi neu wedi’i chyhoeddi fel data ar ein gwefan, byddwn yn ystyried unrhyw gais sy’n dod i law.

Gall gwybodaeth sydd wedi’i chynhyrchu gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sydd eisoes yn hygyrch i chi (er enghraifft, dogfen bolisi sydd wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan, ond sy’n amodol ar ein hawlfraint) gael ei hailddefnyddio o dan y Drwydded Agored.

C4: A fyddaf bob amser yn cael caniatâd i ailddefnyddio dogfennau?

Na, dim bob amser. Mae’r Rheoliadau GSC yn ein galluogi i wrthod ceisiadau am un neu fwy o’r rhesymau a ganlyn:

  • Lle mae’r hawliau eiddo deallusol perthnasol yn y ddogfen yn eiddo i berson neu gorff ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol, neu y mae’r eiddo deallusol o dan reolaeth person neu gorff ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, os ydym yn gwrthod caniatáu i ddogfen sy’n dod o fewn y categori hwn gael ei hailddefnyddio, byddwn yn dweud wrthych pwy sydd bia neu’n rheoli’r hawliau eiddo deallusol (os yn hysbys i ni) fel y gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol. Mae enghreifftiau o hawliau eiddo deallusol perthnasol yn cynnwys hawlfraint, hawliau perfformio, lluniadau pensaernïol a hawliau cronfeydd data.
  • Lle mae’r ddogfen wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 neu ddeddfwriaeth arall sy’n ymdrin â mynediad at wybodaeth. Eithriad i’r rheol hon yw lle y mae adran 21 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol. Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu gan ei fod eisoes yn weddol hygyrch i’r ymgeisydd; er enghraifft, gwybodaeth a gyhoeddwyd ar ein gwefan neu wybodaeth y mae gennym ddyletswydd statudol i ddatgelu i chi (ac eithrio trwy arolygu).
  • Dogfennau sydd y tu allan i gwmpas ein tasg gyhoeddus.
  • Dogfennau nad ydynt wedi eu nodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i fod ar gael i’w hailddefnyddio.
  • Nid yw’r Rheoliadau GSC yn berthnasol mewn achosion lle mae person o dan rwymedigaeth gyfreithiol i brofi diddordeb arbennig yn y wybodaeth er mwyn cael mynediad ati. Er enghraifft, ni fyddai gwybodaeth a fyddai ond yn cael ei rhyddhau mewn ymateb i gais gwrthrych am wybodaeth o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 ar gael i’w hailddefnyddio, oherwydd y ddarpariaeth hon.
C5: A fyddaf yn cael gwybod pam yr ydych wedi gwrthod caniatáu i mi ailddefnyddio’r wybodaeth?

Byddwch - os byddwn yn gwrthod eich cais i ailddefnyddio, mae’n rhaid inni roi gwybod ichi yn ysgrifenedig am y rheswm dros wrthod. Rhaid inni hefyd eich cynghori ynghylch eich hawliau i gael adolygiad mewnol ac apêl.

Lle’r ydym yn gwrthod oherwydd hawliau eiddo deallusol sy’n eiddo i drydydd parti, mae’n rhaid inni ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol perthnasol, lle y mae’r wybodaeth honno neu enw’r person a roddodd y wybodaeth ar gael i ni.

C6: Beth yw Rhestr Asedau Gwybodaeth ac a oes gennych un?

Y Rhestr Asedau Gwybodaeth, a elwir yn Ganllaw Gwybodaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yw rhestr o ddogfennau y mae corff yn y sector cyhoeddus wedi nodi eu bod ar gael i’w hailddefnyddio. Gall y rhestr hon gynnwys gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi a gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi. Mae’n ofynnol i’r cyrff hynny yn y sector cyhoeddus sy’n gorfod cydymffurfio â’r Rheoliadau GSC gyhoeddi Rhestr Asedau Gwybodaeth.

Ar hyn o bryd, mae Canllaw Gwybodaeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi’i gynnwys o fewn ei Gynllun Cyhoeddi; Oni nodir yn wahanol, mae’r holl ddogfennau a gedwir o fewn y Cynllun Cyhoeddi ar gael i’w hailddefnyddio yn amodol ar delerau ac amodau Trwydded Agored.

C7: Sut ydw i’n gwneud cais i ailddefnyddio eich gwybodaeth at ddibenion
masnachol?

Unwaith y byddwch wedi cael mynediad at y ddogfen yr hoffech ei hailddefnyddio (efallai trwy gais Rhyddid Gwybodaeth neu debyg), gallwch wneud cais i’w hailddefnyddio.   Er mwyn ein cynorthwyo i brosesu’ch cais cyn gynted ag y bo modd, gofynnwn ichi sicrhau bod eich cais:

Mae’r Rheoliadau GSC yn gosod y prif rwymedigaethau a ganlyn ar gorff sector cyhoeddus:

  • yn ysgrifenedig,
  • yn nodi’ch enw a’ch cyfeiriad, gan gynnwys unrhyw sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli, yn cynnwys manylion llawn y ddogfen yr hoffech ei hailddefnyddio; ac
  • yn cynnwys disgrifiad o’r ffordd y byddwch yn ailddefnyddio’r ddogfen

Gall eich cais gael ei wneud drwy wneud cais yn ysgrifenedig at: 

Llywodraethu a Sicrwydd

Senedd Cymru  

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

neu drwy anfon e-bost at: Ceisiadau-gwybodaeth@senedd.cymru

C8: A oes yn rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol ymateb o fewn cyfnod penodol?

Mae’n rhaid inni ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cais yn dod i law y tu allan i oriau gwaith arferol (hynny yw, gyda’r hwyr, ar y penwythnos, yn ystod gŵyl banc), bydd yn cael ei drin fel cais sy’n dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf. Os yw’ch cais yn gymhleth neu’n arbennig o helaeth, efallai y byddwn yn gofyn am fwy o amser i’w brosesu. Os felly, byddwn yn ymgynghori â chi ynghylch ymestyn y terfyn amser. Byddwch naill ai’n cael cynnig terfynol yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei hailddefnyddio, ynghyd ag unrhyw amodau ailddefnyddio, neu lythyr yn gwrthod eich cais.

Lle y bo’n bosibl, byddwn yn prosesu’ch cais yn electronig a hefyd yn sicrhau bod y dogfennau yr ydych am eu hailddefnyddio ar gael ar ffurf electronig. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid inni greu neu addasu dogfen er mwyn cydymffurfio â chais i’w hailddefnyddio, ac nid yw’n ofynnol inni ddarparu dyfyniad o ddogfen lle byddai hynny’n golygu ymdrech anghymesur, neu barhau i gynhyrchu math penodol o ddogfen dim ond er mwyn i rywun arall ei ailddefnyddio.

C9: Beth sy’n digwydd os bydd rhywun arall am ailddefnyddio’r un wybodaeth?

Ni allwn wahaniaethu rhwng dau ymgeisydd sy’n gwneud cais am yr un wybodaeth. Rhaid ymdrin â’r ddau gais. Ni allwn ganiatáu i un person yn unig ailddefnyddio’r wybodaeth, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol; er enghraifft, os yw’r trefniant hwn ar gyfer darparu gwasanaeth er budd y cyhoedd. Byddai rhoi hawliau unigryw i un person neu sefydliad yn golygu bod neb arall, hyd yn oed y Cynulliad Cenedlaethol, yn gallu defnyddio neu gyhoeddi’r deunydd dan sylw. Byddai hynny o bosibl yn enghraifft o wahaniaethu, a gallai hynny godi materion o ran cystadleuaeth.

C10: Beth yw eich telerau ac amodau ynghylch ailddefnyddio eich gwybodaeth?

Os ydym yn cytuno eich bod yn gallu ailddefnyddio ein gwybodaeth, byddwn yn gofyn i chi gytuno ar ein telerau ac amodau.
Mae’r telerau a’r amodau hyn wedi’u nodi yn ein Trwydded (Saesneg yn unig).
Gelwir ein trwydded yn Drwydded Llywodraeth Agored - mae’n eich caniatáu i ailddefnyddio ein gwybodaeth yn rhad ac am ddim.

C11: Sut ydw i’n cwyno am y ffordd yr ydych wedi ymdrin â fy nghais i ailddefnyddio gwybodaeth neu am eich prosesau o ran ailddefnyddio?

Os byddwn yn gwrthod eich cais i ail-ddefnyddio ein gwybodaeth, byddwn yn egluro’n ysgrifenedig pam mae’ch cais wedi ei wrthod ac yn esbonio sut y gallwch gwyno, ynghyd â’ch hawliau cysylltiedig i apelio.

Os ydych am gwyno am y ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymdrin â’ch cais i ailddefnyddio, neu os ydych am wneud cwyn cyffredinol am ein polisi a phrosesau o ran ailddefnyddio, dylech ysgrifennu at:-

  

Llywodraethu a Sicrwydd

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

neu drwy anfon e-bost at: Ceisiadau-gwybodaeth@senedd.cymru


Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn neu’r ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch cwyn yn gyffredinol, mae gennych yr hawl i gyfeirio eich cwyn at:-

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745

casework@ico.org.uk