Adnoddau’r Senedd

Cyhoeddwyd 01/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2022   |   Amser darllen munudau

Rôl Grŵp Adnoddau’r Senedd yw helpu i sicrhau bod prosesau llywodraethu cadarn, bod arian y cyhoedd yn cael ei warchod a’i ddefnyddio’n effeithiol, a bod y Senedd yn parhau’n gyflogwr a ffafrir ac yn gyflogwr y mae ei holl staff yn gwneud eu gorau. Mae’r Grŵp yn cynnwys chwe tîm: Caffael, Llywodraethu ac Archwilio, TGCh, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Ariannol a Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau. Isod ceir disgrifiad o’r materion y mae’r meysydd gwasanaeth sy’n rhan o’r grŵp yn ymdrin â hwy:

Gwasanaeth Caffael

Diben y Gwasanaeth Caffael yw cefnogi’r busnes wrth brynu nwyddau a gwasanaethau sy’n cynrychioli gwerth am arian; dyfarnu contractau a helpu i’w rheoli; rheoli cysylltiad y Senedd â pheryglon masnachol mewn ffordd effeithiol; lleihau’r baich o fiwrocratiaeth yn y broses gaffael; a sicrhau priodoldeb yn ein trafodion busnes.

Llywodraethu ac Archwilio

Gwaith y tîm Llywodraethu ac Archwilio yw sicrhau bod gennym brosesau corfforaethol cadarn mewn grym i’n helpu i gyflawni amcanion strategol y Senedd. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd mewn caffael a rheoli prosiectau gwella, dadansoddi risg ac adrodd am berfformiad, archwilio a chydraddoldeb. Mae’r tîm hefyd yn cynorthwyo Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Senedd ac yn gweinyddu ceisiadau rhyddid gwybodaeth.

Gwasanaethau Ariannol

Y tîm Gwasanaethau Ariannol sy’n gosod y safonau ar gyfer rheoli ariannol a chyfrifyddu yn y Senedd; prosesu taliadau i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff y Senedd; cynorthwyo Comisiwn y Senedd i gael gwerth am arian; stiwardiaeth a chywirdeb o ran rheoli ei adnoddau ariannol; a thalu anfonebau i gyflenwyr mor fuan â phosibl er mwyn hwyluso llif arian busnesau yn ystod yr amgylchiadau anodd hyn.

Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

Mae’r tîm yn gyfrifol am reoli ystâd Comisiwn y Senedd a rheoli cyfres o gytundebau gyda darparwyr gwasanaeth allanol. Mae’r tîm yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau hanfodol ar gyfer y Senedd, Tŷ Hywel a’r Pierhead i alluogi a chynorthwyo Aelodau o’r Senedd a swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli adeiladau a’u cynnal a’u cadw, glanhau, arlwyo, yr ystafell bost a’r uned gopïo, archebu ystafelloedd, y gwasanaeth porthora a rheoli gweithdrefnau mewn argyfwng. Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am reoli polisi a gweithrediadau cynaliadwyedd y Senedd.

Adnoddau Dynol

Mae’r tîm Adnoddau Dynol yn canolbwyntio ar gynorthwyo rheolwyr a staff i wneud y Senedd yn lle gwych i weithio. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn gweithio gyda’n cwsmeriaid mewnol i ddatblygu’r arferion gorau posibl – mae gennym Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl – sy’n cynnwys recriwtio staff, cynefino, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, ac iechyd a lles. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn a’r gwasanaeth cymorth i Aelodau er mwyn darparu cyfres o bolisïau a chanllawiau Adnoddau Dynol i Aelodau o’r Senedd a’u staff.

Y Gwasanaeth TGCh a Darlledu

Mae gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Comisiwn yn gwario cyfran helaeth o'i gyllideb flynyddol ar ddarparu'r gwasanaethau hyn ac ar ddatblygu TGCh. Mae'r Senedd wedi bod ar flaen y gad, yn y DU ac yn rhyngwladol yn y defnydd a wneir o TGCh i gefnogi gwaith seneddol ac mae'n parhau i sicrhau'r arferion gorau yn y maes hwn. 


Yn ganolog i'r gwasanaeth mae dymuniad i ddarparu gwasanaethau TGCh rhagorol sy'n cyfrannu at gefnogaeth seneddol o'r radd flaenaf ac yn gwella ymgysylltu â phobl Cymru.  Mae'r Comisiwn wedi cymeradwyo Strategaeth TGCh sydd â'r amcanion hyn yn ganolog iddi. 
Yn ogystal â helpu'r Comisiwn i bennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer TGCh, mae'r Gwasanaeth yn darparu'r canlynol:

  • Datblygu a Rheoli'r Seilwaith TGCh a Darlledu
    Yn ogystal â chefnogi anghenion TGCh 60 o Aelodau o'r Senedd, mae'r gwasanaeth yn gyfrifol am gefnogi dros 800 o ddefnyddwyr system eraill.  Caiff tua hanner y rhain eu cyflogi gan y Comisiwn i gefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau seneddol o ddydd i ddydd. Mae'r gweddill ohonynt yn staff cymorth Aelodau'r Cynulliad sy'n gweithio mewn swyddfeydd etholaeth ledled Cymru neu yn y prif swyddfeydd ym Mae Caerdydd.
    Mae'r gwasanaeth yn darparu ystod eang o gymwysiadau i gefnogi eu hanghenion gan sicrhau bod y rhain yn ddibynadwy ac yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer anghenion sy'n newid.
  • Cyngor, Cefnogi a Datblygu
    Mae'r Gwasanaeth yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i ddefnyddwyr TGCh, yn rheoli pob prosiect sy'n gysylltiedig â TGCh ac yn datblygu TG ar gyfer ystod o swyddogaethau. Mae tîm ymroddedig o Reolwyr Cyfrifon yn rhoi cymorth i Aelodau, er mwyn sicrhau bod anghenion neu faterion penodol yn cael eu nodi a'u trin.
  • Senedd
    Mae'r Gwasanaeth yn gyfrifol am gyflwyno'r gwasanaethau TGCh, sain a darlledu a ddefnyddir yn y Senedd i gefnogi busnes y Cynulliad. Mae'r rhain yn cynnwys y systemau a ddefnyddir gan Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr i reoli'r agenda, y papurau ategol a phleidleisio yn ogystal â rhoi mynediad i Aelodau ddefnyddio e-bost a gweld deunydd ymchwil. Caiff busnes y Pwyllgorau ei gefnogi yn yr un modd. Caiff trafodion y Cyfarfod Llawn a Chyfarfodydd y Pwyllgorau eu darlledu'n fyw drwy Senedd TV a deunydd wedi'i recordio ar gael fel archif.