Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn dadansoddi Bil Teithio Llesol (Cymru), a gafodd ei anfon ato gan y Pwyllgor Busnes.
Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn brysur yn hysbysebu holiadur ar-lein ac yn dosbarthu holiaduron papur yn gofyn i bobl Cymru am eu barn hwy ar gerdded a beicio yng Nghymru. A oes digon o adnoddau ar gael er mwyn beicio a cerdded yn eu hardal? Beth fyddai’n ei gwneud yn fwy tebygol iddynt gerdded neu feicio? Yn olaf, ydyn nhw’n cytuno â chynlluniau Llywodaeth Cymru i ganolbwyntio ar drefi a dinasoedd yn hytrach nag ar gefn gwlad?
Cytunodd nifer o sefydliadau ar draws Cymru i ddosbarthu’r linc i’r holiadur ar-lein a’r holiaduron papur ymysg eu defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, Wrecsam Ifanc, ClicOnline a BikeAbility Wales.
Roedd dros 60% o ymatebwyr yn teimlo nad oedd digon o adnoddau yn eu hardal i’w galluogi iddynt feicio neu gerdded mwy. Pan ofynwyd pa fath o adnoddau oedd eu hangen, ymatebodd nifer drwy ddweud bod angen mwy o raciau beiciau cysgodol, "Mae angen mwy o raciau beiciau y tu allan i siopau a gorsafoedd trên."
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu canolbwyntio ar drefi a dinasoedd yn hytrach nag ar gefn gwlad wrth ystyried cerdded a beicio yng Nghymru. Roedd dros 70% o ymatebwyr yn cytuno â hyn, "Mae’n lleihau llygredd", "Mae’n cadw pobl yn iach", "mae mwy o bobl yn byw mewn trefi a dinasoedd, byddai cerdded a beicio yn ddewis iachach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu yrru".
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i
BikeAbility Wales, ClicOnline, The Sprout, Wrecsam Ifanc, Clybiau Plant Cymru, Coed y Brenin, Cadw Caerdydd i Symud, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Arfordir Benfro, Parc Cenedlaethol Eryri, The Boy’s Brigade Wales, Gwobr Dug Caeredin,The National Youth Agency,The National Children’s Bureau, The Prince’s Trust, Save the Children a Urdd Gobaith Cymru am eu cymorth yn hysbysebu a dosbarthu’r holiadur.Mae mwy o wybodaeth am Fil Teithio Llesol (Cymru) ar gael yma.