Bws Allgymorth y Cynulliad yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, 3-7 Gorffennaf 2012.

Cyhoeddwyd 10/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/07/2012

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gogledd Cymru oedd yr arhosfa nesaf ar gyfer Bws Allgymorth y Cynulliad. Cynhelir y digwyddiad bob haf ers 1947 ac mae'n parhau i fod yn llwyfan ar gyfer llawer o gystadleuwyr o bedwar ban y byd i arddangos eu diwylliannau a'u treftadaeth gerddorol.  

Croesawon ni dros 1000 o bobl ar y bws yn ystod yr ŵyl. Fe wnaeth llawer ohonynt gwblhau'r cwis, a Wal yr Aelodau wrth lenwi cardiau "dweud eich dweud" oedd yn ymwneud â materion yn effeithio ar eu hetholaeth neu ranbarth yng Nghymru. Roeddem yn falch o glywed bod llawer o'r plant ysgol o Gymru wedi ymweld â'r Senedd i ddysgu am ddemocratiaeth yng Nghymru. Soniodd rhai eu bod hyd yn oed yn y broses o benderfynu pa luniau i'w cyflwyno i gystadleuaeth ffotograffiaeth Y Llywydd "Democratiaeth ar Waith yng Nghymru ". Hefyd cawsom ymweliad gan y Prif Weinidog Carwyn Jones AC i’r bws dydd Iau.

Cyrhaeddodd y glaw a ragwelwyd ar gyfer diwedd yr wythnos ar ddydd Gwener. Roedd y prif faes parcio wedi ei gau oherwydd llifogydd. Effeithiodd hyn ar y nifer o ymwelwyr ond serch hynny roedd yr adlen newydd ar y bws yn cadw pawb yn gymharol sych! Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno wrth edrych ar y lluniau ei fod yn edrych yn eithaf trawiadol ac yn sicrhau ein bod yn sefyll allan.

Ar ddydd Sadwrn cawsom ymweliadau gan Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau cyfagos; Lesley Griffiths AC a Ken Skates AC. Roedd llawer o’u hetholwyr wedi llenwi cardiau post ar Wal yr Aelodau, hysbyswyd y bydden nhw’n derbyn yr adborth hynny cyn gynted ag y byddwn ni’n dychwelyd I Fae Caerdydd. Daeth Aled Roberts AC hefyd i edrych ar y bws ar ddiwedd y dydd.

 

 Bydd yr arhosfa nesaf ar daith y Bws yn Sioe Amaethyddol Pen y Bont,13-15 Gorffennaf.

Cewch weld rhagor o luniau o'r Bws Allgymorth yn Eisteddfod Llangollen ar Flickr