Clywed Lleisiau Pobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal

Cyhoeddwyd 16/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2018

Ar #DyddGofal18, roeddem yn meddwl y buasem yn edrych ar y sesiynau tystiolaeth diweddar o'n hymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc Sydd Wedi Bod Mewn Gofal. Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc a oedd wedi cael profiad o fod mewn gofal ac roeddem yn falch iawn bod dau grŵp wedi cytuno i siarad â ni, a rhannu eu profiadau. Roeddem yn arbennig o awyddus i glywed am:
  • y cymorth a'r gefnogaeth a gawsant mewn gofal;
  • faint o Weithwyr Cymdeithasol a lleoliadau a gawsant, a faint o ddewis, os o gwbl, oedd ganddynt yn y penderfyniadau hyn;
  • A oedd bod mewn gofal wedi effeithio ar eu haddysg;
  • A oeddent yn barod pan ddaeth yn amser gadael gofal; a
  • Beth y byddent yn ei newid i wneud y profiad o fod mewn gofal yn well i eraill
Roedd y bobl ifanc yn wirioneddol agored a didwyll gyda ni am eu profiadau a chawsom ddigon ganddynt i gnoi cil drosto. Y negeseuon allweddol a gododd yn y sesiynau oedd bod angen i blant fod yn ganolog i'r system, ac ei bod yn hanfodol nad yw gofal yn rhywbeth sy'n cael ei wneud i bobl ifanc, ond yn cael ei wneud gyda phobl ifanc.

Yr angen am sefydlogrwydd ym mywyd pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Roedd pawb a ddaeth i siarad â'r Pwyllgor wedi cael nifer o leoliadau, rhai ohonynt yn ormod i'w cofio.  Roeddent hefyd wedi cael nifer o Weithwyr Cymdeithasol.  Clywsom nad oedd y penderfyniad i newid gweithwyr cymdeithasol neu hyd yn oed leoliadau (eu cartrefi mewn gwirionedd) y bobl ifanc yn cael ei drafod gyda nhw. Dywedodd un person ifanc wrthym ei bod wedi darganfod ddydd Gwener y byddai'n cael ei symud ddydd Llun, ond bod y maethwyr yn gwybod ers dros fis ei bod yn dod.  Dywedodd un arall wrthym sut roedd wedi cael pum newid i'w thîm cefnogi yn ystod y mis diwethaf - a oedd yn golygu ei bod wedi gorfod ailadrodd ei stori ar sawl achlysur, a oedd yn peri gofid a chryn drawma iddi.  Mae'r angen am gysondeb ym mywydau'r rhai sydd mewn gofal yn hanfodol, a dylid ystyried yr hawl i ymgynghori a chyfathrebu am eu bywydau yn hawl sylfaenol.

Yr effaith y mae bod mewn gofal yn ei chael ar addysg

Clywsom am yr effaith negyddol a gafodd newid lleoliadau ar addysg un person ifanc, gan olygu ei bod wedi colli tua dwy flynedd a hanner o'r ysgol uwchradd. Dywedwyd wrthym hefyd am stigmateiddio disgyblion mewn gofal fel un achlysur pan gafodd un o'r bobl ifanc ei ddal yn camymddwyn yn yr ysgol gyda disgybl arall, a chanfod bod y disgybl arall wedi cael cosb, ac nid oedd hi wedi cael cosb am ei bod mewn gofal.  Fodd bynnag, clywsom hefyd mai atgofion da un o'r bobl ifanc oedd ennill 14 TGAU A* i C er gwaethaf awgrymiadau na fyddai hyn yn bosibl. Ysbrydolwyd y Pwyllgor gan yr hyn yr oedd y person ifanc yma wedi'i gyflawni, ond fe'i digalonwyd bod hyn y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylid ohono. Mae'n rhaid inni fel cymdeithas sicrhau bod y dyheadau a osodwn ar bobl ifanc yr un fath waeth pwy ydynt. Mae uchelgais plant mewn gofal yr un mor ddilys ag uchelgais unrhyw blentyn arall ac felly mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.

Cymorth ar gyfer y sawl sydd ar fin gadael gofal

Clywsom lawer am y ffaith mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sydd ar fin gadael gofal - dywedwyd wrthym: “They are quick enough to take us off our parents but not quick enough to help us stand on our own two feet”. Clywsom nad oedd llawer o bobl ifanc yn gwybod sut i ddefnyddio peiriant golchi, neu ariannu mynd i siopa am fwyd wrth adael gofal. Mae tystiolaeth yn dangos y gall y newid i fod yn oedolyn fod yn fwy anodd i bobl sy'n gadael gofal na llawer o'u cyfoedion o oed tebyg. Mewn system lle rydym yn disgwyl i'r grŵp hwn o bobl ifanc fynd allan ar eu pen eu hunain yn 18 oed (er bod hyn yn dechrau newid gyda'r cynllun 'pan fydda i'n barod'), mae angen i garreg filltir o'r fath fod yn broses a gefnogir.

Camau nesaf ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Roedd y sesiynau tystiolaeth hyn yn rhan allweddol o'r ymchwiliad i sicrhau bod yr holl leisiau perthnasol yn cael eu clywed. Rydym am ymgorffori'r diwylliant fod pobl ifanc yn ganolog i wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb barodrwydd yr unigolion hyn i dreulio amser yn siarad â ni, a helpu ein dealltwriaeth o'r materion y maent yn eu hwynebu. Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn parhau a bydd yn ymestyn drwy gydol y Pumed Cynulliad, gan ein bod yn benderfynol o gadw'r grŵp hwn o blant a phobl ifanc yn uchel ar yr agenda wleidyddol, nes bod y canlyniadau y maent yn eu haeddu yn cael eu cyflawni.