Digwyddiad Canolfan Mileniwm Cymru y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref

Cyhoeddwyd 06/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/03/2013

Ar ddydd Iau, 21ain Chwefror, cymerodd dros ugain o aelodau’r cyhoedd dros Gymru rhan mewn digwyddiad gydag Aelodau Cynulliad i drafod y mater o addasiadau yn y cartref. Mynychodd cyfranogwyr gydag amrywiaeth o anghenion a phrofiadau dros ledled Gymru i ddigwyddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gwelwyd lluniau o'r digwyddiad isod: http://www.flickr.com/photos/nationalassemblyforwales/sets/72157632823400828/show/ Rhannwyd y cyfranogwyr ac Aelodau Cynulliad dros bedwar bwrdd, lle caiff y cyfranogwyr cyfle i drafod eu profiadau personol o addasiadau yn y cartref. Aethpwyd ymlaen i awgrymu tair thema allweddol y dylai’r Pwyllgor eu hystyried wrth gynnal cyfarfodydd swyddogol gyda budd-ddeiliaid a chyrff cynrychioladol yn y Senedd drwy gydol yr ymchwiliad. Yn dilyn y trafodaethau hyn, cafodd y prif bwyntiau a godwyd eu bwydo’n ôl gan gofnodwyr i'r Aelodau Cynulliad a chyfranogwyr ar y byrddau eraill ar ddiwedd y digwyddiad. [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=F92o-aYI5ss] Canfodydd Tony Hawkins o Geredigion a chynrychiolydd Grŵp Gweithredu Anabledd Cymru'r bod “y fath yma o sesiynau yn un o’r ychydig gyfleoedd sydd gan bobol, yn enwedig pobol gydag anableddau, i siarad yn uniongyrchol gyda’r unigolion sydd yn mynd i wneud penderfyniadau neu mewn sefyllfa i newid pethau. Beth oedd mor ddiddorol am y sesiwn hyn, yw bod cyd o’r materion a gododd gan bobol dros Gymru, gan ein bod ni gyd yn cynrychioli ardaloedd gwahanol… yn themâu cyffredin”. Mae’r trafodaethau hyn wedi darparu gwell dealltwriaeth i’r Pwyllgor o’r hyn sy’n effeithio ar bobol sydd wedi bod, ac ar hyn o bryd yn mynd drwy’r prosesau hyn. Hoffwn roi ddiolch i Taff Housing, Anabledd Dysgu Cymru, Cymdeithas Brydeinig y Therapyddion Galwedigaethol Cymru, Cartrefi Hygyrch Caerdydd, Tai Pawb, Age Cymru, Anabledd Cymru a Shelter Cymru am eu cymorth drwy hybu’r digwyddiad hyn. Gall dolen i Ymchwiliad y Pwyllgor cael ei ddarganfod yma: http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5136