Digwyddiad cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu digidol, 25 Hydref 2014

Cyhoeddwyd 22/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2014

Julian Price, Cyfathrebu’r Cynulliad social_media_event_2014 - 08 social_media_event_2014 - 09 Ddydd Iau 25 Medi, cafodd siaradwyr eu gwahodd i ddod i siarad â staff y Cynulliad am gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu digidol. Dyma'r tro cyntaf inni gynnal digwyddiad o'r fath yn y Cynulliad, a oedd yn canolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol drwy'r dydd. Cafodd tri siaradwr gydag ymagweddau gwahanol iawn tuag at gyfryngau cymdeithasol eu gwahodd i siarad yn y digwyddiad: Wynne Keenan, Rheolwr Marchnata Allanol a Chyfathrebu Digidol yn y DVLA; Dr Tom Crick, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol MetropolitanFCaerdydd; ac Emma Meese, Rheolwr Cyfryngau a Datblygu Hyfforddiant yng Nghanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd. Cafodd sesiwn y prynhawn ei rhoi at ei gilydd yn wreiddiol fel digwyddiad ar gyfer staff mewnol, fel cyfle i ddysgu mwy am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a rhannu arfer gorau. Cafodd sawl sefydliad allanol wybod am y digwyddiad a gwnaethant ofyn a fyddai modd iddynt fod yn bresennol. Yn y pen draw, croesawyd cydweithwyr o Cyfle, CIPR Cymru, Heddlu Dyfed Powys, GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru i ymuno yn ein trafodaethau. Rhoddodd Wynne drosolwg rhagorol o'r chwyldro digidol sy'n digwydd yn y DVLA. Roedd rhai metrigau allweddol yn cynnwys fod gan y DVLA bron i 5,000 o gyflogeion, mae'n rheoli 175 miliwn o drafodion y flwyddyn, ac yn ateb 25 miliwn o alwadau'n flynyddol. O gymharu â'r sector preifat, mae ei refeniw bellach yn fwy na Tesco Online ac nid yw ymhell y tu ôl i Amazon (£3.2 biliwn a £3.3 biliwn yn y drefn honno). social_media_event_2014 - 01 social_media_event_2014 - 03 social_media_event_2014 - 02 Mae'r DVLA wedi gwneud llawer o waith yn fewnol i ymgysylltu'n ddigidol. Mae hyn wedi'i gyflawni drwy ddefnyddio blogiau, gwe-sgyrsiau, a'r wefan rhwydweithio cymdeithasol, Yammer. Yn allanol, mae blogiau, Twitter a Youtube yn hanfodol er mwyn cyflwyno cynnwys ac addysgu ynghylch cyfreithiau trethiant yn y DU. Mae'r DVLA wedi dileu'r gwaharddiad ar staff yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y sefydliad mewn ymdrech i wella eiriolaeth. Eglurodd Wynne y bydd ei adran yn gweithio gyda meysydd busnes amrywiol yn y sefydliad i ddangos sut y gall cyfryngau cymdeithasol eu helpu, ac i ddangos budd busnes clir. Awgrymodd ddod o hyd i noddwr, a manteisio ar bob cyfle i siarad am eich gwaith. Siaradodd Dr Tom Crick am y dirwedd ddigidol a sut y mae pobl bellach yn cysylltu. Awgrymodd na ddylech drydar/wneud sylw am unrhyw beth na fyddech yn ei ddweud yn uchel mewn ystafell. Cred y dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn lleol, yn naturiol, ac yn flaenoriaeth. Eglurodd sut y mae cyfryngau cymdeithasol wedi dileu rhwystrau a oedd yn arfer atal pobl rhag cyfathrebu â sefydliadau, ac roedd yn annog mwy o bobl yn yr ystafell i flogio am eu profiadau a'u diddordebau. Fodd bynnag, cymhwysodd y defnydd hwn o flogio a chyfryngau cymdeithasol gyda'r cwestiwn: pam eich bod yn ei wneud? social_media_event_2014 - 05 social_media_event_2014 - 06 Aeth yn ei flaen i drafod y ffaith fod gan bawb agenda ddigidol a thrafod sut i ymgysylltu â dinasyddion. Nododd sut yr oedd newid rhwng y cenedlaethau o ran disgwyliadau cyfathrebu digidol, a bod angen i sefydliadau addasu i hyn. Emma Meese oedd siaradwr olaf y dydd. Mae'n gweithio i Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ond roedd yn arfer gweithio gyda BBC Cymru a BBC Radio Wales. Roedd Emma yn gallu dangos y defnydd o ddydd i ddydd o gyfryngau cymdeithasol a rhannodd rai straeon llwyddiannus. Eglurodd Emma mai'r cyfryngau cymdeithasol yw eich ffenestr siop i'r byd, ac felly bod angen ichi ddeall eich neges, ac yn bwysicach, ddeall eich cynulleidfa. Nododd y gellir chwilio am fywgraffiad eich cyfrif Twitter ac felly ei bod yn bwysig ei strwythuro'n gywir, gan ddefnyddio pob gair i'r eithaf. Mae'n arfer da cynnwys linc i'ch gwefan neu flog, ac os ydych yn ddwyieithog, ychwanegu gair yn eich iaith arall, i ddangos y gallwch gyfathrebu mewn ieithoedd gwahanol. Defnyddiodd Emma enghraifft o sefyll mewn ciw gyda phobl ddieithr i annog ymgysylltiad. Yn syml, a fyddech chi ond yn siarad amdanoch chi'ch hun pe byddech yn ciwio yn eu hymyl? Mae'n debyg na fyddech yn gwneud hyn, gan y byddai'r person arall yn diflasu. Byddech yn dechrau sgwrs, gan ofyn yn ogystal â dweud. Fel Dr Crick, tynnodd Emma sylw at y ffaith y dylai pob unigolyn a phob sefydliad gael nod ar y cyfryngau cymdeithasol. Nod > Targed > Llwyddiant Dylech ystyried defnyddio llais rhywun arall h.y. aildrydar negeseuon eraill. Mae hyn yn ategu'r cyflwyniadau blaenorol ynghylch annog eiriolaeth. Fel awgrym ymarferol, awgrymodd Emma hefyd gyfyngu ar nifer y tudalennau Facebook sydd gan sefydliad, gan sicrhau bod eich presenoldeb ar y we yn brysurach o ran cynnwys. Roedd yn ddigwyddiad gwych ac rydym yn ddiolchgar iawn i'n siaradwyr gwadd a drafododd amrywiaeth eang o gynnwys yn y dirwedd ddigidol. Roedd yn dda gweld llawer o sefydliadau allanol yn y seminar, ac yn siarad mor gadarnhaol am y digwyddiad ar Twitter. Gobeithio mai hwn fydd y digwyddiad cyfryngau cymdeithasol cyntaf o lawer yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru - caiff manylion am y digwyddiad nesaf eu cyhoeddi'n fuan.   social_media_event_2014 - 07 social_media_event_2014 - 10