Digwyddiadau’r Haf - 'Steddfod 2013

Cyhoeddwyd 16/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2013

Mae un o wyliau celf, cerddoriaeth a diwylliant mwyaf Gorllewin Ewrop newydd ddod i ben am flwyddyn arall, a bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwarae ei ran i gyfrannu at ei llwyddiant. Daeth y nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i Eisteddfod 2013 a gynhaliwyd yn Sir Ddinbych yng ngogledd ddwyrain Cymru. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn noddi pabell y Cymdeithasau a Chymunedau eleni, ac roedd stondin y Cynulliad wedi’i lleoli rhwng y ddau leoliad. Yn ystod yr wythnos, croesawyd dros 2,200 o ymwelwyr i’r stondin, a chafodd pob un ohonynt gyfle i siarad ag aelodau ein tîm am ddemocratiaeth yng Nghymru a’r datblygiadau gwleidyddol diweddaraf ym Mae Caerdydd. Daeth cyfanswm o 12 o Aelodau’r Cynulliad ar ymweliad â’r stondin gan gynnwys Anne Jones, yr AC lleol; David Melding, y Dirprwy Lywydd; William Powell a Bethan Jenkins a oedd yn cynrychioli’r Pwyllgor Deisebau; a’r Aelod mwyaf newydd yn y Cynulliad sef Rhun ap Iorwerth, yr Aelod dros Ynys Môn. Cawsom hefyd dros 500 o ymatebion i ymgynghoriadau’r Cynulliad. Yn ystod yr wythnos gwahoddwyd y cyhoedd i ddweud eu dweud ar nifer o faterion, gan gynnwys: -Cynlluniau Llywodraeth Cymru i safoni amseroedd tymhorau ysgol yng Nghymru; -Bil arfaethedig gan Bethan Jenkins AC, ar lythrennedd ariannol; -A’r trefniadau cyfredol ar gyfer ariannu lleoedd prifysgol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig a 6ed dosbarth o Gymru. Cafodd llawer mwy o bobl gyfle i ddysgu rhagor am ddemocratiaeth yng Nghymru a’u haelod lleol, yn syml drwy sgwrsio â staff neu drwy gymryd rhan mewn rhaglen o ddarlithoedd a digwyddiadau poblogaidd ym Mhebyll cyfagos y Cymdeithasau a Chymunedau. [caption id="attachment_302" align="alignnone" width="298"]Seremoni'r Orsedd tu allan i stondin y Cynulliad. Seremoni'r Orsedd tu allan i stondin y Cynulliad.[/caption] Er bod yr Eisteddfod wedi gorffen am eleni, mae llawer o bobl eisoes yn meddwl am ddigwyddiad y flwyddyn nesaf yn Llanelli, ac mae cyfle o hyd i chi gymryd rhan yn ymgynghoriadau’r Cynulliad dros yr haf. Cliciwch ar y lincs uchod. Hwyl am y tro!