Diwrnod coffa trawsrywedd – 20 Tachwedd 2016

Cyhoeddwyd 18/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2016

Blog gan gyd-gadeiryddion OUT-NAW, rhwydwaith LGBT Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gweithle. [caption id="attachment_2023" align="alignleft" width="330"]Delwedd o faner trawsrywedd Delwedd o faner trawsrywedd[/caption] Eleni, i nodi'r Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol blynyddol, rydym yn bwriadu codi ymwybyddiaeth ynghylch materion trawsryweddol gan dreulio peth amser yn ystyried y materion sy'n effeithio ar y gymuned drawsryweddol a'r effaith y mae trawsffobia a throseddau casineb eraill yn ei chael wrth iddynt geisio byw bywyd i'r eithaf a heb ofn o ddydd i ddydd. Ar 20 Tachwedd bob blwyddyn y cynhelir Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol, ac mae digwyddiadau a gwylnosau i'w cael ar draws y byd. Llofruddiwyd Rita Hester, menyw drawsryweddol Affro-Americanaidd, yn Allston, Massachusetts ym 1998. Yn dilyn hynny, penderfynodd y gymuned o bobl dduon yn eu galar a'u dicter y byddent yn cynnal gwylnos dan olau canhwyllau, a dechreuwyd prosiect ar y we o'r enw “Cofio ein Meirw”. Sefydlwyd Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol ym 1999 gan yr ymgyrchydd, Gwendolyn Ann Smith, hithau hefyd yn fenyw drawsrywiol, er cof am y rheini a fu'n dioddef y troseddau erchyll hyn, gan godi ymwybyddiaeth ynghylch materion trawsryweddol yn rhyngwladol yn sgil hynny. Mae OUT-NAW, mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y Cynulliad a'n Cynghreiriaid, yn gwneud gwaith pwysig wrth geisio creu corff seneddol sy'n fwy hygyrch gan sicrhau bod ein gwasanaethau a'n cyfleusterau'n draws-gynhwysol. Rydym hefyd yn ymwybodol trwy ein rhwydweithiau fod sefydliadau ledled Cymru yn gweithio tuag at wneud eu gwasanaethau'n fwy cynhwysol, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r trafodaethau yn hynny o beth, gan gydweithio, rhannu profiadau a rhannu adnoddau i helpu creu cymdeithas sy'n fwy cynhwysol. [caption id="attachment_1081" align="alignleft" width="300"]Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall[/caption] [caption id="attachment_1999" align="alignleft" width="197"]Delwedd o arwydd toiledau niwtral o ran rhyw Delwedd o arwydd toiledau niwtral o ran rhyw[/caption]                 I'r perwyl hwn, rydym wedi:
  • cyflwyno cyfleusterau tai bach niwtral o ran eu rhywedd ar gyfer staff ac ymwelwyr yn ystâd Bae Caerdydd
  • dilyn rhaglen hyfforddi wedi'i darparu gan sefydliadau trawsryweddol
  • datblygu adnoddau ar gyfer ein staff cyswllt cyntaf i godi eu hymwybyddiaeth o faterion trawsryweddol a rhoi cynghorion defnyddiol iddynt
  • cynnwys 'Mx' ochr yn ochr â theitlau eraill fel Mrs, Ms, Mr a Dr yn ein ffurflenni monitro a'n ffurflenni cais recriwtio ar gyfer pobl anneuaidd.
  • hybu Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia yn flynyddol
  • cymryd rhan mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth yn ystod Mis Hanes LHDT
Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i wrando ar y seminar gyntaf o'i math ar gyfer cydraddoldeb trawsryweddol a gynhelir yn Abertawe yn yr wythnosau nesaf, a byddwn yn ystyried yr hyn a ddywedir yno o safbwynt y gwasanaethau yr ydym ni'n eu cynnig. Bydd y Cynulliad hefyd yn gwneud rhywfaint o waith allgymorth yn nigwyddiad Swansea Sparkle - un o ddau ddigwyddiad yn unig yn y DU sy'n benodol ar gyfer materion trawsryweddol.  Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.  Jayelle Robinson-Larkin & Craig Stephenson - Cyd-GadeiryddionLogo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad