Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl – 3 Rhagfyr (01/12/2016)

Cyhoeddwyd 01/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2016

gan Ross Davies, Rheolwr Amrywiaeth ac aelod o Embrace, rhwydwaith anabledd y Cynulliad. Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl bob blwyddyn i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, i helpu i chwalu rhwystrau a hybu urddas, hawliau a lles pobl anabl. Yn y Cynulliad, rydym yn falch o fod yn gyflogwr ac yn ddarparwr gwasanaethau hygyrch. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff anabl ac yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ymwneud â phobl anabl ar hyd a lled Cymru wrth i ni ymgymryd â’n gwaith. Fel cyflogwr, rydym yn rhoi pob cefnogaeth i’n staff anabl drwy addasu’r gweithle e.e. cynnig oriau gwaith hyblyg, darparu offer penodol sy’n diwallu eu hanghenion neu newid eu trothwy absenoldeb salwch. Mae gennym hefyd bolisïau i helpu staff, fel ein polisi iechyd meddwl, cyfle i weld Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle, rhwydwaith anabledd yn y gweithle, sef EMBRACE, a’r cyfle i fanteisio ar wasanaethau cwnsela a chynghori. Dyma y mae rhai o’n staff anabl wedi’i ddweud am y cymorth a gânt:
  • “Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan fydda’ i yn y gwaith, gan fy mod yn cael fy nhrin â pharch ac mae fy sgiliau’n cael eu gwerthfawrogi.”
  • "Mae parodrwydd y Cynulliad i ymwneud â’n rhwydwaith ar gyfer staff anabl yn gwneud i mi deimlo bod fy marn a’m profiadau’n bwysig. Rwy’n teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r sefydliad a’i staff.”
  • "Mae’r cymorth a gaf bob amser gan y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi’i gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith.”
Mae ein hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant i bobl anabl wedi cael cydnabyddiaeth gan nifer o gyrff allanol. Rydym wedi: img_0231 Rydym yn falch iawn o’r dystysgrif Ystyriol o Awtistiaeth a gawsom yn ddiweddar a chaiff hon ei dangos yn ein derbynfa. Dywedodd Joyce Watson AC, yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb yng Nghomisiwn y Cynulliad: "Unwaith eto, rydym yn falch o gael ein cydnabod fel sefydliad sy’n cymryd cydraddoldeb o ran mynediad o ddifrif. Rydym yma i gynrychioli pawb yng Nghymru ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb.” Comisiwn y Cynulliad yw’r corff sy’n darparu eiddo, staff a gwasanaethau i helpu Aelodau’r Cynulliad. Dywedodd Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd, “Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gweithio gydag Embrace a’n partneriaid allanol gan fod hynny’n ein helpu ni fod yn ymwybodol o’r arfer gorau diweddaraf o ran chwalu’r rhwystrau sy’n ein gwneud yn llai hygyrch a chynhwysol. Mae hyn yn ein helpu ni, fel sefydliad, i sicrhau ein bod yn cyflwyno newidiadau cynaliadwy ac ystyrlon i’n staff ac i bobl Cymru.” Logo Embrace, rhwydwaith anabledd y Cynulliad         Logo ‘Hyderus o ran Anabledd’ Logo ‘Awtistiaeth Gyfeillgar’ y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth              Logo Nod Siarter ‘Yn Uwch na Geiriau’ Action on Hearing Loss Cymru Os hoffech wybod rhagor am y Cynulliad, ewch i’n gwefan, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook. Mae gwybodaeth am weithio yn y Cynulliad hefyd ar gael ar ein gwefan. Mae gwybodaeth i ymwelwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig ar gael ar ein tudalennau gwe. Os hoffech gysylltu â’r Tîm Amrywiaeth, gallwch anfon e-bost at Amrywiaeth@cynulliad.cymru neu ffoniwch 0300 200 7455. Rydym yn croesawu galwadau drwy gyfrwng y gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun a gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformatau gwahanol ar gais.