Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, 2 Ebrill 2019

Cyhoeddwyd 02/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/04/2019

  [caption id="attachment_3398" align="alignleft" width="119"]sarah Sarah Morgan
 
[/caption]   Wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, daw ein herthygl gwadd gan Sarah A Morgan, Uwch Swyddog Ymgysylltu Cangen Cymru o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.  [caption id="attachment_3392" align="aligncenter" width="508"]NAS WAAW 2019 Llun y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth o godwyr arian gyda'r pennawd Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn ôl[/caption]   Fel sefydliad sydd wedi ennill gwobr am ei waith ym maes awtistiaeth, rydym yn falch o nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd. Mae'r wobr hon yn dangos ein hymrwymiad i fod yn safle hygyrch i ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Dyma rai o'r camau a gymerodd y Cynulliad i ennill y Wobr hon:
  • neilltuo adran ar ein gwefan ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth.  Mae'r adran yn cynnwys lincs at adnoddau sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar eu cyfer ac sydd ar gael mewn fformatau gwahanol;
  • creu mannau tawel dynodedig i bobl ag awtistiaeth orffwys ac ymdawelu;
  • sicrhau bod staff perthnasol yn cael hyfforddiant i ymdrin yn hyderus â phobl anabl, sy’n cynnwys adran ar awtistiaeth;
  • creu cysylltiadau â’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas i sicrhau ein bod yn sefydliad sy'n ymgysylltu â phawb yng Nghymru, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth.
Rydym yn hoffi meddwl ein bod yn gorff seneddol modern, hygyrch y gall pobl o bob cefndir ymwneud ag ef yn hawdd ac yn ystyrlon, gan fod ein cyfleusterau ein gwasanaethau a’n gwybodaeth ar gael i bawb. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd ein gair ni, dyma ddywedodd Sarah o’r Gymdeithas Awstisiaeth Genedlaethol ar ôl ymweld â’r Senedd gyda grŵp o wirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau. [caption id="attachment_3393" align="alignleft" width="251"]NAS_Cymru_FullColour_CMYK Logo'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth[/caption] “Rwyf wedi bod i'r Senedd droeon. Yn ystod fy ymweliad diwethaf cefais i a grŵp o gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau fy nhywys ar daith o amgylch yr adeilad. Cynhaliwyd y daith honno yn ystod Diwrnod Mynediad i Bobl Anabl, a chafodd ei threfnu’n benodol ar gyfer grŵp o unigolion sy'n awtistig.   Roeddwn yn ymwybodol bod y Senedd wedi ennill Gwobr Awtistiaeth Gyfeillgar y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, felly roedd yn gyfle i weld a oedd y sefydliad yn rhoi ei arfer gorau ar waith. Roedd y daith yn hawdd iawn i'w threfnu, ac roedd y wefan yn cynnwys disgrifiad clir a chynhwysfawr o'r hyn a allai ddigwydd ar y diwrnod. Felly, wrth gyrraedd yr adeilad, roeddem yn  gwybod y byddai’n rhaid mynd drwy’r system ddiogelwch, ond roedd y staff o gymorth mawr. Yna, yn y dderbynfa, roedd y staff unwaith eto o gymorth mawr ac yn hynod gyfeillgar. Roedd yn brofiad da iawn a, chyn bo hir, roedd y tywysydd yno i gynnig cymorth. Roedd y tywysydd mor wybodus, ac roedd yn deall anghenion penodol y grŵp hefyd. Roedd yn teilwra'r daith er mwyn bodloni anghenion yr unigolion, ac er mwyn sicrhau bod y profiad yn rhyngweithiol iawn a bod pawb yn ei fwynhau. Roedd bob amser yn sicrhau bod y grŵp yn fodlon ac yn addasu pethau yn unol â hynny. Mwynhaodd pawb y daith, ac roedd yn llwyddiant mawr. Credaf ein bod ni i gyd wedi dysgu llawer o ganlyniad i'r ymweliad. Mae'r Senedd yn gwneud gwaith arbennig o dda o ran helpu pawb i fwynhau eu profiad. Ymddengys bod y staff yn ymwybodol iawn o awtistiaeth a sut y gallent helpu i sicrhau bod aelodau'r grŵp yn mwynhau eu hymweliad. Mae bob amser yn braf cael gwybod bod busnes yn gyfeillgar i bobl ag awtistiaeth, ond roedd yn wych cael profiad uniongyrchol o hynny.” [caption id="attachment_3397" align="aligncenter" width="354"]WAAD Llun o logo Diwrnod Awtistiaeth y Byd[/caption]