Mae datganoli digidol wedi cyrraedd - rhowch help llaw wrth inni fynd i'r afael â dyfodol digidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 28/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/10/2016

Dyma farn Claire Scantlebury, pennaeth y Tîm Cyfathrebu Digidol, pam y byddai gweithio i'r Cynulliad yn berffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn digidrwydd.

Rwy'n ystyried fy hun yn dipyn o anorac o ran ymgysylltu digidol, ac mae'n deg dweud bod holl botensial y byd digidol yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi. Ystyriwch y posibiliadau o ran y gynulleidfa, ymgysylltu mewn amser real, llunio deunydd gwreiddiol, sgwrsio dros y we, ennyn emosiynau, datblygiadau anhygoel technoleg, trendiau, platfformau, yr hyn sy'n dal sylw cynulleidfaoedd, data enfawr, gwybodaeth agored i bawb, profiad y defnyddiwr...mae'r rhestr yn ddiddiwedd!  Rwy'n deall yn iawn mor lwcus ydw i'n cael gweithio bob dydd ar rywbeth sy'n rhoi cymaint o bleser i mi. Mae mwynhau'r gwaith yr ydw i'n ei wneud yn un peth, ond mae'n well byth gwybod fy mod yn chwarae fy rhan ar gyfer sefydliad mor arbennig a phwysig.  Â minnau'n aelod newydd o staff yn y Cynulliad, ac wedi imi fod yn gweithio yn y sector preifat yn flaenorol, rwy'n credu mai dyma'r amser mwyaf cyffrous i fod yn rhan o'r byd gwlidyddol ym Mhrydain. Ond tra bo pobl yn ddigon parod i ymgysylltu yn nemocratiaeth ein gwlad yn sgil rhai pynciau (awn ni ddim ar ôl yr hen air hwnnw 'Brexit' yn fan hyn!), mae ymgysylltu â gwleidyddiaeth yng Nghymru yn rhywbeth sy'n rhaid mynd i'r afael ag ef. untitled-design-1 Mae'r byd gwleidyddol sydd ohoni ynghyd â'r ffordd y mae pobl yn darllen gwybodaeth yn her newydd, cyffrous ac mae'r byd digidol yn bwysig iawn yn hynny o beth.  Mae rôl sefydliadau gwleidyddol yn newid yn gyson.  Mae'r rheolau'n newid, mae'r ffiniau'n newid ac mae'r cyfleoedd a ddaw yn sgil e-ddemocratiaeth a'i botensial yn fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas wrth inni geisio ymgysylltu â phobl nad ydynt yn ymwneud rhyw lawer â gwleidyddiaeth. Mae bod yn rhan o'r tîm digidol yma yn y Cynulliad yn gyfle i ni gyfrannu er lles Cymru trwy arloesi a defnyddio gwahanol foddau o ymgysylltu'n greadigol.  Mae'n swydd mor gyffrous a llawn o fwynhad, ond mae'r llwyth gwaith yn cynyddu'n gyson...felly, dyma benderfynu recriwtio dau Reolwr ar y Cyfryngau Digidol i fod yn rhan o'n tîm. At hynny, mae'r iaith Gymraeg wedi hen ennill ei phlwy yn yr oes ddigidol. Dyna pam rydym yn recriwtio arbenigwyr digidol i arwain y ffordd o ran arloesedd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer ceisio am un o'r swyddi hyn, wrth inni weithio er lles Cymru a'r iaith Gymraeg. Os oes angen rheswm arall arnoch i weithio i'r Cynulliad, ni chewch chi lefydd gwell i weithio ynddynt na'r Senedd a'r Pierhead ym Mae Caerdydd.

Beth yw'r rôl?

Rydym yn dîm newydd yn y Cynulliad, ac rydym yn gweithio i lywio presenoldeb y Cynulliad ar y we wrth inni ddangos i bobl Cymru beth rydym yn ei wneud yma ym Mae Caerdydd, gan ysbrydoli pobl yn sgil hynny. Rwy'n chwilio am weithwyr proffesiynol digidol sy'n frwdfrydig dros ymgysylltu ar-lein â phobl Cymru  Dylech fod yn hyderus i lunio deunydd a'i rannu ar sawl platfform digidol, a bod yn ymwybodol o'r dull gorau ar gyfer gwahanol dasgau drwy eich gwybodaeth a'r sgiliau yr ydych wedi eu dysgu trwy brofiadau mewn rolau eraill a oedd yn ymwneud â marchnata digidol a chynnwys digidol. Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi fod yn arloesol, gwthio ffiniau a helpu gosod y Cynulliad ymysg sefydliadau digidol gorau'r byd, gwnewch gais ar unwaith!