Mis Chwefror yw Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)

Cyhoeddwyd 04/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2015

Stonewall-twitter-w Yn y DU, caiff Mis Hanes LGBT ei nodi a’i ddathlu yn ystod mis Chwefror i gyd-fynd â diddymu  Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988, yn 2003 a oedd yn gwahardd “hyrwyddo gwrywgydiaeth” i blant dan oed. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol ymhlith y rhai a fydd yn nodi Mis Hanes LGBT. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn falch iawn o gael ei restru’n bedwerydd ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2015 ymhlith y sefydliadau mwyaf cyfeillgar tuag at bobl LGB yn y DU. Rydym hefyd yn falch iawn o gael ein henwi fel y Cyflogwr gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer pobl LGB am yr ail flwyddyn yn olynol.   LGBT History Month Photocall Mae rhwydwaith staff LGBT y Cynulliad Cenedlaethol wedi paratoi’r erthygl hon i dynnu sylw at y ffordd  y mae hawliau pobl LGBT yn y DU wedi esblygu ers 1988.   Dyma wyth rheswm pam bod y sefyllfa’n well i bobl LGBT yn 2015:
  • Diddymwyd Adran 28 yn 2003 ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn yr Alban yn 2000;
  • Mae pobl hoyw wedi gallu gwasanaethau yn y lluoedd arfog ers 2000;
  • Yn 2001 cyflwynwyd oedran cyfartal o gydsyniad rhywiol yn y DU;
  • Ers 2003 mae wedi bod yn groes i’r gyfraith i gyflogwr ddiswyddo person am fod yn hoyw;
  • Ers 2005 mae pobl trawsrywiol wedi cael cydnabyddiaeth gyfreithiol fel aelodau o’r rhyw sy’n briodol i’w rhywedd, gan ganiatáu iddynt gael tystysgrif geni newydd a chydnabyddiaeth lawn o’r rhywedd hwn mewn perthynas â deddfau eraill;
  • Ers 2005 mae wedi bod yn bosibl i gyplau hoyw fabwysiadu plant ar y cyd. Ers 2009, gall cwpl lesbaidd sydd â phlentyn roi enw’r fam naturiol a’i phartner ar y dystysgrif geni;
  • Ers 2007 mae wedi bod yn anghyfreithlon i siop, gwesty neu fusnes arall eich gwahardd rhag cael eich gwasanaethu oherwydd eich bod yn hoyw;
  • Ers 2014 mae wedi bod yn bosibl i gyplau o’r un rhyw briodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
  Er bod gwaith i’w wneud o hyd, yn 1988 mae’n siŵr y byddai wedi bod yn anodd dychmygu y gallai pobl LGB wasanaethau yn y lluoedd arfog, fabwysiadu plant ar y cyd a phriodi. Ychwanegwch at hynny ddatblygiadau eraill, fel ymestyn y Ddyletswydd Cydraddoldeb gyhoeddus sengl i gynnwys pobl LGBT yn 2010, ac mae 2015 a thu hwnt yn edrych fel lle gwell. LGBThistorymonth OUT-NAW