Mis Hanes LGBT – rydym wedi gwneud cynnydd da!

Cyhoeddwyd 21/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2017

Ffotograff o Claire Clancy yn gwisgo coron o flodau’r enfys i baratoi ar gyfer Pride Cymru gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Ers i mi ymuno â’r Cynulliad yn 2007, rwyf wedi gweld llawer iawn o newid o ran sicrhau bod y Cynulliad yn fwy cynhwysol. Gan mai hwn yw fy Mis Hanes LGBT olaf tra’n gweithio i’r Cynulliad rwyf wedi bod yn ystyried, yn wir, pa mor bell yr ydym wedi dod o ran cefnogi pobl LGBT a hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill gwobrau niferus am y gwaith hwn, wedi cynyddu ein gwaith allgymorth, wedi bod yn bresennol mewn rhagor o ddigwyddiadau, wedi adolygu ein polisïau a’u gwella, ac wedi darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i sicrhau ein bod yn gyflogwr mwy cynhwysol. Rydym yn ffodus iawn i gael rhwydwaith gweithle rhagorol yn OUT-NAW a Thîm Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddedig sy’n gweithio’n eithriadol o galed i wella cydraddoldeb LGBT ymhellach. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt yn gyhoeddus am eu gwaith. Yn ystod fy amser yma, rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau â Craig, cyd-gadeirydd OUT-NAW, ynghylch sut y gallwn barhau i wneud cynnydd. Rwy’n hapus iawn i ddweud mai fi oedd y person cyntaf i gofrestru ar gyfer y rhaglen Cyfeillion LGBT. Yr haf diwethaf, cefais hwyl fawr wrth ymuno â’r Rhwydwaith a’r Cyfeillion LGBT ar yr orymdaith Pride drwy strydoedd Caerdydd. Roedd yn brofiad hyfryd gweld cymaint o bobl yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant. Rwy’n falch o bopeth yr ydym wedi’i gyflawni, ac rwy’n falch o fod yn gyfaill. Edrychaf ymlaen at ddilyn llwyddiant parhaus y Cynulliad. Welwn ni chi yn Pride! logo gyda enfys - "proud to be an ally"logo mis hanes LGBTLogo - Stonewall 100 Cyflogwr Gorau  Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad Assembly staff at Pride  photo - LGBT staff and allies with the rainbow flag