Mis Hanes pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) 2016

Cyhoeddwyd 24/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2016

Thema Mis Hanes LGBT eleni yw Crefydd, Cred ac Athroniaeth. Logo ar gyfer Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol 2016 Mae llawer o'r sgwrs ynghylch cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd yn awgrymu bod hawliau credinwyr crefyddol ar y naill law, a hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) ar y llaw arall fel petaen nhw'n gwbl annibynnol ar ei gilydd. Ond eto bob dydd, mae miliynau o bobl LGBT yn cyfuno eu ffydd â’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Ym mis Tachwedd 2013, cynhaliodd Rhyng-grŵp Senedd Ewrop ar Hawliau LGBT drafodaeth ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd a chrefydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys fideo 5 munud o hyd yn dangos tystiolaeth bersonol gan bobl lesbiaidd a hoyw crefyddol o bob cwr o'r byd. Hefyd yn y digwyddiad, cyflwynwyd adroddiad gan Human Rights Without Frontiers o'r enw LGBT People, the Religions & Human Rights in Europe. Er gwaethaf yr hyn y mae dadl mor rhanedig yn ei awgrymu, dadleuwyd bod gwerthoedd fel rhyddid, cydraddoldeb ac urddas dynol yn dir cyffredin rhwng credinwyr crefyddol a'r rhai sy'n amddiffyn hawliau dynol pobl LGBT. Drwy gydol mis Chwefror, bydd Stonewall, elusen yn y DU sy'n hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, yn cyflwyno proffiliau o bobl LGBT ysbrydoledig sydd â gwahanol grefyddau/credoau. Bydd y proffiliau yn cynnwys pobl sy'n Sikhaidd, Mwslimaidd, Catholig, Cristnogol, Iddewig, Hindŵ a Dyneiddwyr. Gallwch ddarllen mwy am Fis Hanes LGBT a thema crefydd, cred ac athroniaeth yng  Nghylchgrawn Mis Hanes LGBT neu ewch i wefan swyddogol Mis Hanes LGBT am fanylion yr holl weithgareddau, digwyddiadau a newyddion. Logo 100 Cyflogwr Gorau Stonewall         Logo OUT-NAW, Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle LGBT y Cynulliad [caption id="attachment_1191" align="alignnone" width="5472"]Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT Llun staff LGBT y Cynulliad a Chyfeillion yn dal y faner enfys ar gyfer mis Hanes LGBT[/caption] Yn y Cynulliad Cenedlaethol rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Yn hynny o beth, rydym yn falch iawn o fod yn y trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2016 o'r sefydliadau LGBT-gyfeillgar gorau yn y DU. Rydym hefyd yn falch iawn o gael eu henwi fel Cyflogwr Gorau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer pobl LGBT am y drydedd flwyddyn yn olynol. Gallwch gael gwybod mwy am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT mewn mannau eraill ar ein blog, lle mae gennym nifer o erthyglau perthnasol, gan gynnwys Mis Hanes LGBT 2015, aelodau o'n staff sy'n Fodelau Rôl Stonewall Cymru, lleoliad gwaith i fyfyrwyr Stonewall Cymru, dathlu Diwrnod Gwelededd Deurywiol, a hyrwyddo cydraddoldeb trawsrywiol. I gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn gwerthfawrogi ein pobl ac i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwaith cyfredol, ewch i: www.cynulliad.cymru/swyddi Gallech hefyd ymweld â'r Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weld arddangosfa o rai o fodelau rôl LGBT Cymru Stonewall Cymru.