Myfyrwyr ac academyddion yn siarad ag Aelodau’r Cynulliad am raglenni Erasmus

Cyhoeddwyd 12/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/03/2014

Ddydd Iau, 6 Mawrth, cyfarfu myfyrwyr ac academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ag Aelodau’r Cynulliad yng Nghampws Cyncoed, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd i siarad am eu profiadau o raglen Erasmus, sy’n galluogi myfyrwyr addysg uwch i astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs gradd, ac yn galluogi staff i addysgu neu hyfforddi mewn 33 o wledydd Ewrop: http://www.britishcouncil.org/erasmus.htm Mae’r digwyddiad yn rhan o ymchwiliad gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad, sy’n edrych ar gyfleoedd cyllido Ewropeaidd rhwng 2014 a 2020:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8564 Erasmus Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 Cymerodd 19 o bobl ran yn y digwyddiad, gyda’r myfyrwyr yn cael eu rhannu’n bump o grwpiau o amgylch bwrdd crwn bach, ble y buont yn cymryd rhan mewn trafodaethau grwpiau ffocws, a gynhaliwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Prif themâu’r cwestiynau oedd: - Beth oedd yn cymell myfyrwyr a staff i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid, pa brofiadau a gawsant, a pha effaith a gafodd y rhaglen arnynt, yn bersonol, ac yn academaidd; - Beth yw manteision annog rhagor o fyfyrwyr sy’n graddio i astudio y tu allan i’r DU am gyfnod yn ystod eu hastudiaethau, a beth yw’r rhwystrau i hyn; - Sut y gall Cymru roi cefnogaeth well i symudedd allanol myfyrwyr a gwneud yn fawr o gyfleoedd a ddaw yn sgîl ymgysylltu â rhaglenni’r UE fel Erasmus. Bu’r grwpiau yn trafod am awr, ac yna cafwyd sesiwn adborth ble y bu Aelodau’r Cynulliad yn nodi’r prif bwyntiau a drafodwyd gan eu grwpiau, a oedd yn cynnwys: - Mae Erasmus yn ehangu gorwelion ac yn datblygu hyder, ond mae’n arwain at berfformiad academaidd gwell yn ogystal. - Gallai Erasmus, a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig, gael ei hyrwyddo’n ehangach ac yn gynharach, drwy ysgolion, dyweder, ymhlith disgyblion 14/15 mlwydd oed a rhieni; - Mae angen ymrwymiad cadarnach a mwy strategol i hyrwyddo ymgysylltiad ag Erasmus, yn hytrach na gadael i arloeswyr unigol fod yn gyfrifol am hynny; - Dylai lleoliadau blasu, byrrach fod ar gael i fyfyrwyr cyn eu bod yn ymgymryd â lleoliadau cyfnewid Erasmus llawn. - Mae symudedd yn bwysig i staff, a disgrifiwyd hon fel elfen hanfodol; - Mae angen dull mwy trylwyr o fonitro, meincnodi a gwerthuso effeithiau’r rhaglen ar lefel Cymru; Roedd y Pwyllgor hefyd yn llawn edmygedd o glywed beth y mae’r ddwy Brifysgol yn ei wneud mewn cysylltiad ag Erasmus ar hyn o bryd; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, drwy waith ei hadran ryngwladol, yw’r Sefydliad Addysg Uwch arweiniol yn y DU o ran cymryd rhan yn Erasmus Mundus, ac mae Prifysgol Caerdydd wedi gosod targed y dylai 17% o’i myfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid erbyn 2017 a gwelwyd hyn fel cam cadarnhaol sy’n rhoi blaenoriaeth uwch i symudedd rhyngwladol. Cawsom air â Rhun ap Iorwerth AC, Anna Dukes, Uwch Swyddog Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Charlotte Walmsley, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn union ar ôl y sesiwn adborth, i gael eu barn am y digwyddiad, a beth y buont yn ei drafod yn eu grwpiau unigol: [youtube=https://www.youtube.com/playlist?list=PLAiwHW5TKfkGs0zAk5SeiQql0-v1syMnH] Bydd y wybodaeth a gasglwyd o’r digwyddiad yn cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad i gwestiynu cyrff a sefydliadau cynrychioliadol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a fydd yn cwrdd â’r Pwyllgor drwy gydol mis Mawrth, a bydd yn dylanwadu ar adroddiad a gaiff ei gynhyrchu gan y Pwyllgor yn yr haf, a fydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Hoffem ddiolch i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd am eu holl gymorth i drefnu’r digwyddiad, ac am eu cyfraniadau yn ystod y dydd.