Pam yr ydym yn mwynhau gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 24/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2013

Apprentices Un o'r rhannau cofiadwy o'r diwrnod asesu oedd y cyfle i gael taith o amgylch adeilad mawreddog y Senedd, sydd hyd heddiw yn parhau i ymddangos yr un mor fawreddog imi wrth imi gerdded drwyddo. Ar ôl bod yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, gofynnwyd imi ddod i gyfweliad. Ar ôl cyrraedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddiwrnod fy nghyfweliad, roeddwn i'n teimlo'n nerfus ond hefyd yn falch fy mod wedi cyrraedd y cam hwn. I ddechrau nid oeddwn i'n deall yn iawn beth fyddai fy rôl yn ei olygu, ond ar ôl cyfarfod â fy rheolwr llinell a'r darpar Bennaeth Gwasanaeth, roedd gen i well ddealltwriaeth. Ers hynny, dwi wedi gweithio yn yr un adran am dros flwyddyn. Dwi wedi tyfu i fyny'n feddyliol ac wedi aeddfedu y tu hwnt i'm harddegau! Mae'r cyfle hwn wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy hun yn bersonol ac yn broffesiynol gyda dyfodol disglair o'm mlaen." Morgan Reeves Prentis adeiladau a chynaliadwyedd Roedd y broses recriwtio yn strwythuredig iawn a gwnaeth fy mharatoi'n dda ar gyfer bywyd yn y Cynulliad; roedd y ffurflen gais yn fy ngalluogi i amlinellu fy nghryfderau a'm gwendidau'n glir. Dwi'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn fawr a bod wrth wraidd y gwaith yn y Cynulliad, tra'n cael y cyfle i ennill cymhwyster cydnabyddedig. Byddwn yn argymell y cyfle hwn yn fawr i unrhyw un sy'n ystyried ennill profiad fel prentis. Mwynheais fy amser fel prentis gymaint, pan gododd y cyfle i wneud cais am swydd lawn amser, manteisiais ar y cyfle ar unwaith. O ganlyniad i hynny, dwi bellach yn aelod parhaol o staff yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a dwi'n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu a chamu ymlaen yn fy ngyrfa. Melissa Nichols Swyddog Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Ar ôl cwblhau diploma sylfaen mewn celf ym Mhrifysgol Morgannwg, cymerais flwyddyn allan i geisio sefydlu gyrfa. Roeddwn yn ystyried mynd i’r brifysgol i astudio celf pan ddysgais am y cyfle i fod yn brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe wnes i gais yn reddfol, oherwydd roeddwn yn gwybod bod y Cynulliad yn gyflogwr da. Llenwais y ffurflen gais gan ddefnyddio’r dechneg ‘STAR’, sef ‘sefyllfa’, ‘tasg’, ‘camau a gymerwyd’ a ‘chanlyniad’ yn y Gymraeg, a’i hanfon yn y gobaith y byddwn yn llwyddiannus. Er llawenydd mawr i mi, cefais fy ngwahodd i fynd i ganolfan asesu, lle’r oedd yn rhaid i mi gwblhau nifer o asesiadau a oedd yn benodol i’r swydd. Yr eiliad y cyrhaeddais, gwnaeth y tîm Adnoddau Dynol i mi deimlo bod croeso i mi. I ddechrau, roeddwn yn nerfus iawn, ond cafodd fy nerfau eu lleddfu’n gyflym iawn gan y staff cyfeillgar o’m cwmpas. Ar ôl y ganolfan asesu, cefais fy ngwahodd i gael cyfweliad. Cefais fy nghyfweld gan banel am y tro cyntaf, a gwnaeth y staff i mi deimlo’n gartrefol yn syth. Wythnos yn ddiweddarach, cefais lythyr yn rhoi gwybod i mi fy mod wedi bod yn llwyddiannus a fy mod bellach yn Brentis! Afraid dweud fy mod wrth fy modd ac yn gyffro i gyd! Yn ystod y cyfnod cynefino, cefais fy nghroesawu gan bennaeth y gwasanaeth, fy nhîm a’m rheolwr llinell. Cefais fy rhoi yn y grŵp Adnoddau, sy’n cynnwys y timau Adnoddau Dynol, Llywodraethu ac Archwilio a Gwasanaethau Ariannol. Yn bennaf, rwyf wedi gweithio o fewn y tîm Adnoddau Dynol, a bûm yn rhan o’r timau dysgu a datblygu a’r tîm recriwtio y rhan fwyaf o’r amser. Drwy gydol fy Mhrentisiaeth, rwyf wedi magu sgiliau hanfodol, cymhwyster NVQ, profiad gwaith gwerthfawr ac atgofion gwych. Gwneud cais am y cynllun Prentisiaeth yw’r penderfyniad gorau a wnes i erioed. Rwyf wedi cael llwyth o brofiad gweinyddol ac wedi gwneud cyfeillion am oes. Ar ôl pasio fy NVQ a chyfweliad am swydd staff cymorth i’r tîm, rwyf bellach wedi fy nghyflogi’n barhaol fel ‘Swyddog Cymorth Datblygu Proffesiynol’ yn y tîm Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau, lle’r wyf yn gobeithio cael gyrfa hir a hapus. Am y tro cyntaf, rwyf wedi sylweddoli nad y Brifysgol yw’r unig lwybr i gyflogaeth o reidrwydd. Mae’r cynllun Prentisiaeth wedi fy nhywys ar hyd llwybr gwahanol. Does dim amheuaeth mai dyna oedd y llwybr cywir i mi. Emily Morgan Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwilio am chwe Phrentis i weithio mewn timau amrywiol yng ngwahanol adrannau’r Comisiwn. Budd pum swydd ym Mae Caerdydd, a bydd un swydd ar gael yn ein swyddfa ym Mae Colwyn. I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein hysbyseb, darllenwch ein gwybodaeth ychwanegol, neu ffoniwch: 029 20 89 8659 (llinell ateb 24 awr). Swyddi