Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.

Cyhoeddwyd 04/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2013

Mae Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ffurfio Is-bwyllgor er mwyn cymryd tystiolaeth gan grwpiau â diddordeb yn y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Fel rhan o’r ymchwiliad, mae’r tîm Ymgysylltu wedi bod yn ymweld â nifer o safleoedd er mwyn casglu barn y cyhoedd. Bydd fideo o’r safbwyntiau a gasglwyd yn cael ei gynhyrchu er mwyn dangos i’r ACau sydd yn eistedd ar yr is-bwyllgor beth sydd gan pobl Cymru i’w ddweud ar y mater. Ymwelwyd â chyfanswm o 20 safle ar draws Cymru gan gynnwys Venue Cymru Llandudno, Sefydliad Chapter Arts Caerdydd, Undeb myfyriwyd Prifysgol Bangor ac Aberystwyth a Choleg Menai Bangor gyda nifer o bobl yn fodlon siarad hefo’r tîm ac yn meddwl ei fod yn syniad da bod y tîm yn ymgysylltu gyda phobl Cymru yn y ffordd yma. Dywedodd Simon, Cynon Taf, “Dwi’n meddwl ei fod yn wych, y ffaith eu bod yn rhoi'r ymdrech i mewn. Y ffaith bod y Cynulliad allan yn gofyn am farn y bobl yn wych.” Dywedodd Geraint sydd yn dod o Ynys Môn, “Mae’n fendigedig. Dwi erioed yn dweud fy hun mae angen, os da chi’n fudiad yng Nghaerdydd yn sicr mae pobl yn y Gogledd o hyd yn dweud bod popeth yn mynd i Gaerdydd ond os ydy’r Cynulliad yn mynd allan ac yn cyfweld a phobl, fedrwch chi ddim cael agosach i’r cyhoedd nag mynd allan ac eistedd i lawr hefo nhw.” Wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen bydd gwybodaeth yn ymddangos yma.