Sylwadau’r Llywydd, Rosemary Butler, ar annerch Mardi Gras Caerdydd

Cyhoeddwyd 04/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2012

Ym Mardi Gras Cymru ddydd Sadwrn (1 Medi) cefais gyfle i annerch cymuned hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol Cymru. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb ym mhopeth rydym yn ei wneud, o hawliau cydraddoldeb aelodau’r staff, gwasanaethau i'n cwsmeriaid a’r deddfau rydym yn eu pasio. Eleni cafodd y Cynulliad ei osod yn ugeinfed ar restr 100 uchaf Stonewall o’r llefydd mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU – roedd hyn 22 safle’n uwch na’r llynedd. Dyna pam roedd yn bwysig i mi fod yn y Mardi Gras i ddangos cefnogaeth barhaus y Cynulliad i gymuned LGBT Cymru a chadarnhau ein hymrwymiad i faterion cydarddoldeb.   Y Mardi Gras yw un o’r dyddiau mwyaf pleserus a lliwgar yn y brifddinas, ac roedd yn ardderchog  gweld cynifer o bobl o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan yn y fath ddiwrnod gwych o ddathlu.   Ffoto ar Flickr