Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2019

Cyhoeddwyd 07/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2019

Tri o gyn-brentisiaid y Cynulliad yn sefyll y tu allan i’r Senedd
Tri o gyn-brentisiaid y Cynulliad yn sefyll y tu allan i’r Senedd

Emily Morgan, sydd bellach yn gweithio i’r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau yn siarad am ei phrofiadau yn y Cynulliad...

Ar ôl cwblhau diploma sylfaen mewn celf ym Mhrifysgol Morgannwg, cymerais flwyddyn allan i geisio sefydlu gyrfa. Roeddwn yn ystyried mynd i'r brifysgol i astudio celf pan ddysgais am y cyfle i fod yn brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Roeddwn yn gwybod yn syth y dylwn wneud cais gan fy mod yn ymwybodol bod y Cynulliad yn gyflogwr enghreifftiol.

Llenwais y ffurflen gais gan ddefnyddio'r dechneg 'STAR', sef 'sefyllfa', 'tasg', 'camau a gymerwyd' a 'chanlyniad' yn y Gymraeg, a'i hanfon yn y gobaith y byddwn yn llwyddiannus. Er llawenydd mawr i mi, cefais fy ngwahodd i fynd i ganolfan asesu, lle'r oedd yn rhaid i mi gwblhau nifer o asesiadau a oedd yn benodol i'r swydd.  Yr eiliad y cyrhaeddais, gwnaeth y tîm Adnoddau Dynol i mi deimlo bod croeso i mi. I ddechrau, roeddwn yn nerfus iawn, ond cafodd fy nerfau eu lleddfu'n gyflym iawn gan y staff cyfeillgar o'm cwmpas. Ar ôl mynd i'r ganolfan asesu, cefais fy ngwahodd i gael cyfweliad. Cefais fy nghyfweld gan banel am y tro cyntaf, a gwnaeth y panel sicrhau fy mod yn teimlo'n gartrefol yn syth. Wythnos yn ddiweddarach, cefais lythyr yn rhoi gwybod i mi fy mod wedi bod yn llwyddiannus a fy mod bellach yn Brentis! Yn naturiol, roeddwn wrth fy modd ac wedi cyffroi'n llwyr!

Yn ystod y cyfnod cynefino, cefais fy nghroesawu gan bennaeth y gwasanaeth, fy nhîm a'm rheolwr llinell. Cefais fy rhoi yn y grŵp Adnoddau, sy'n cynnwys y timau Adnoddau Dynol, Llywodraethu ac Archwilio a Gwasanaethau Ariannol. Yn bennaf, rwyf wedi gweithio o fewn y tîm Adnoddau Dynol, a bûm yn rhan o'r timau dysgu a datblygu a'r tîm recriwtio y rhan fwyaf o'r amser. 

Drwy gydol fy Mhrentisiaeth, rwyf wedi magu sgiliau hanfodol, cymhwyster NVQ, profiad gwaith gwerthfawr ac atgofion gwych. Gwneud cais am y cynllun Prentisiaeth yw'r penderfyniad gorau a wnes i erioed. Rwyf wedi cael llwyth o brofiad gweinyddol ac wedi gwneud cyfeillion am oes. Ar ôl pasio fy nghymhwyster NVQ a fy nghyfweliad cymorth tîm, cefais fy nghyflogi yn y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau fel aelod o staff cymorth tîm. Ers hynny, rwyf wedi cael dyrchafiad pellach ac rwyf nawr yn ymgyfarwyddo â'm rôl fel Swyddog Gweithredol yn y tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau. 

Am y tro cyntaf, rwyf wedi sylweddoli nad y Brifysgol yw'r unig lwybr i gyflogaeth o reidrwydd. Mae'r cynllun Prentisiaeth wedi fy nhywys ar hyd llwybr gwahanol. Does dim amheuaeth mai dyna oedd y llwybr cywir i mi.

Mwy o wybodaeth:Prentisiaethau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru​​​