Y Cynulliad yn eich ardal chi - Ymgynghoriad Cynllun Cydraddoldeb, 1 Rhagfyr 2011

Cyhoeddwyd 06/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2011

Cymerodd sawl grŵp o ogledd Cymru ran mewn gweithdai a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar. Cyfarfu tîm Allgymorth a thîm Cydraddoldeb y Cynulliad gyda’r grwpiau ar Fws Allgymorth y Cynulliad yn Y Rhyl a Wrecsam. Cawsant gyflwyniad ar waith y Cynulliad yn ogystal â chyfle i ddweud eu dweud ar ymgynghoriad cynllun cydraddoldeb y Cynulliad. Daeth grŵp arall draw i swyddfa’r Cynulliad yng ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy tebyg. Cyn y gweithdai, daeth aelodau o’r cyhoedd draw i’r bws i ddysgu am waith y Cynulliad. Soniodd grŵp o ferched eu bod yn anhapus gyda’r tâl a godir ar bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus felly aethant a gwybodaeth am Bwyllgor Deisebu'r Cynulliad adref gyda hwy.