- Deall gwerth wrth reoli a datblygu potensial gweithlu cynyddol amrywiol.
- Recriwtio a chadw'r bobl fwyaf talentog, oherwydd rydym yn credu bod cyflogeion hapusach a all fod yn onest â nhw eu hunain yn arwain at sefydliad sy’n perfformio’n well ac a all felly ddenu a chadw’r dalent orau’n well.
- Darparu’r gwasanaeth gorau i randdeiliaid.
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiwylliant gwaith y Cynulliad.
"Fel yr Uwch-hyrwyddwr Iechyd Meddwl rwyf wedi fy synnu gydag ymrwymiad y staff yn y rhwydwaith iechyd meddwl... Mae'r rhwydwaith yn ffordd bwysig iawn i uwch-reolwyr yn y Cynulliad ddeall sut y gallwn gefnogi ein staff i weithio yma gyda chyflwr iechyd meddwl." Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau ac Eiriolwr dros Iechyd Meddwl
"Fel y cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer y cynllun ieithoedd swyddogol drafft, cwrddais â'r rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer hil, ethnigrwydd a threftadaeth ddiwylliannol i'w drafod, gan ei fod wedi darparu cyfraniad ysgrifenedig at ein hasesiad o'r effaith ar gydraddoldeb o ran y cynllun ieithoedd swyddogol. Clywais yn uniongyrchol sut y mae'r materion yn effeithio ar yr aelodau, awgrymiadau am yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol a manteision cydweithio. Yn bersonol roeddwn yn credu bod hyn yn ychwanegu gwerth at y broses gyfan ac yn arwain at rai camau gweithredu pellach. Credaf y bydd cydweithio o'r fath yn sicrhau cynllun tecach a mwy cynhwysol. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfraniad a wneir gan ein rhwydweithiau staff i sicrhau diwylliant gweithio cynhwysol ar ein hystâd, sy'n hybu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth y gweithlu ac sy’n caniatáu i bobl deimlo'n gyfforddus, ac i deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi." Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn
"I mi, mae rhwydweithiau staff y Cynulliad a'u cyflawniadau yn achos balchder. Mae eu bodolaeth a'u cyfraniad yn dangos ein bod yn sefydliad aeddfed, gofalgar, sensitif a goddefgar. Gan obeithio y byddant yn ffynnu!" Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau ac Eiriolwr dros Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae’r rhwydweithiau wedi cyfrannu at ac wedi codi proffil y sefydliad mewn amrywiaeth o ffyrdd. Maent wedi:"Mae'r rhwydweithiau'n ymgorffori'r gwerth a roddwn ar feysydd i'w gwella, safbwyntiau ac arsylwadau pobl, ac yn fy rôl fel Pennaeth Adnoddau Dynol, mae eu hymroddiad ar y cyd i gymryd rhan weithredol yn y gwelliant parhaus yn ein Cynulliad yn amhrisiadwy, yn bersonol ac yn broffesiynol." Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol
- Cyfrannu at lawer o asesiadau o effaith polisïau a phrosiectau, fel y polisi Maes Parcio Hygyrch, Polisi Penodiadau y Rhoddir Blaenoriaeth Iddynt yr Adran Adnoddau Dynol, prosiectau ailwampio yr Adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau, ac ati.
- Mynychu digwyddiadau, fel: Pride and Sparkle, Gwobrau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall Cymru, Cynhadledd Cydraddoldeb Hiliol Flynyddol Cymru Gyfan, Mela, ac ati.
- Cymryd rhan mewn cymhellion cymunedol, fel casglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd.
- Cynhyrchu amrywiaeth o flogiau, taflenni ffeithiau a chanllawiau ar amrywiaeth o bynciau, megis: Ramadan, amrywiaeth ddiwylliannol, anableddau na ellir eu gweld, ymwybyddiaeth ddeurywiol, iechyd meddwl, ac ati.
- Gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, fel Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
EMBRACE – ein rhwydwaith i bobl anabl. Mae’n agored i bobl anabl, y rhai sy’n cefnogi pobl anabl a phobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i bobl anabl. O fewn EMBRACE mae grŵp dyslecsia a grwpiau poen cronig. Wedi'i gadeirio gan Abi Phillips
INSPIRE – ein rhwydwaith i fenywod. Mae’n agored i ddynion a menywod. Caiff ei gyd-gadeirio gan Sarah Crosbie a Janette Iliffe. Cysylltwch â hwy drwy e-bostio inspire@cynulliad.cymru OUT-NAW – ein rhwydwaith i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae’n grŵp caeëdig i bobl LGBT, ac felly gall pobl LGBT fod yn aelodau, a phobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb LGBT fod yn gyfeillion. Caiff ei gyd-gadeirio gan Craig Stephenson a Lisa Bowkett TEULU - mae ein rhwydwaith i ofalwyr a rhieni sy’n gweithio yn rhwydwaith rhithwir sy’n gweithredu yn bennaf ar-lein ar hyn o bryd. Mae croeso i aelodau a chyfeillion newydd i’r rhwydwaith bob amser. Caiff ei gyd-gadeirio gan Holly Pembridge a Joel Steed REACH – Y rhwydwaith Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol yw’r rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae’n agored i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel aelodau ac i bobl sy’n cefnogi cydraddoldeb hiliol fel cynghreiriaid. Caiff ei gyd-gadeirio gan Abi Lasebikan a Raz Roap. Cysylltwch â hwy drwy e-bostio Reach.BMENetwork@Cynulliad.Cymru I gael rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle ewch i'n tudalen gwe 'Recriwtio - Amrywiaeth'. Fel arall, cysylltwch â'r Cadeiryddion, y tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant neu Gydgysylltydd y rhwydweithiau, Abi Lasebikan. Os hoffech wybod mwy am y Cynulliad, gallwch edrych ar ein gwefan, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook. Mae gwybodaeth am weithio yn y Cynulliad ar gael hefyd ar ein gwefan. Mae gwybodaeth i ymwelwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth ar gael ar ein tudalennau pwrpasol.