Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Cyhoeddwyd 04/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2014

Yn ddiweddar cyfarfu cleifion, nyrsys, meddygon, deietegwyr, seicolegwyr a meddygon teulu gydag Aelodau'r Cynulliad mewn digwyddiad yng Nghwmbrân i drafod argaeledd gwasanaethau bariatrig (cangen o feddygaeth sy'n ymdrin ag achosion gordewdra a sut i'w atal a'i drin) yng Nghymru, fel rhan o ymchwiliad a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8523 Cafodd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Ngwesty Best Western Parkway yng Nghwmbrân, ei rannu'n ddwy; cynhaliwyd pedair trafodaeth grŵp ar yr un pryd, wedi'u dilyn gan sesiwn adborth ar y diwedd. Cafodd cyfranogwyr eu rhannu'n bedwar grŵp i gael cydbwysedd o safbwyntiau ar bob bwrdd. Cafodd y trafodaethau grŵp hyn eu hwyluso gan Kirsty Williams AC, Elin Jones AC, Lynne Neagle AC a Rebecca Evans AC ac roeddent yn canolbwyntio ar bum prif gwestiwn: -         Pa welliannau, os o gwbl, y gellid eu gwneud o ran y ddarpariaeth o dimau amlddisgyblaethol a chlinigau rheoli pwysau yng Nghymru, ac o ran mynediad cleifion at y gwasanaethau hyn? -         A ydych o'r farn bod y meini prawf presennol sy'n nodi'r rheini sy'n gymwys i gael llawdriniaeth fariatrig yn ddigonol ac yn briodol? -         Sut y caiff addasrwydd claf ar gyfer cael llawdriniaeth bariatrig ei asesu gan yr holl glinigwyr perthnasol sy'n ymwneud a'i ofal? Pa broblemau, os o gwbl, sy'n codi? -         O ran trin cleifion sydd â phroblemau gyda'u pwysau, a yw'r lefel o hyfforddiant, gwybodaeth a chefnogaeth a roddir i weithwyr iechyd proffesiynol yn ddigonol? -         Pa effaith a gaiff ymyrraeth rheoli pwysau, neu ddiffyg ymyrraeth, ar fywydau cleifion? Parhaodd y trafodaethau grŵp am tua awr, wedi'u dilyn gan sesiwn adborth 45 munud lle roedd cynrychiolydd o bob un o'r pedwar grŵp ffocws yn adrodd yn ôl beth a ddywedodd y cyfranogwyr ar eu byrddau. Roedd nyrs (Nia Eyre), deietegydd (Sioned Quirke) a chlaf (Pam Bland) i gyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, ac roeddent yn rhan o'r un drafodaeth grŵp. I weld beth oedd eu barn ar gymryd rhan yn y digwyddiad, beth a drafodwyd yn eu grŵp, a beth y credant y dylai'r Pwyllgor ei argymell i Lywodraeth Cymru, gweler y fideo isod: [youtube:www.youtube.com/watch?v=TxxhBS4WJoY&list=PLAiwHW5TKfkHTYxjPoQpXUeae2HxSnJgb] Cafodd nodyn o'r prif bwyntiau trafod o'r digwyddiad eu hysgrifennu (Eitem Agenda 5c): www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/g1986/Public%20reports%20pack%20Wednesday%2026-Mar-2014%2010.30%20Health%20and%20Social%20Care%20Committee.pdf?T=10, a oedd yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar y Gweinidog mewn perthynas â gwasanaethau bariatrig ar 26 Mawrth. Gallwch wylio'r sesiwn hon ar-lein yn www.Senedd.tv. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio llunio adroddiad gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru ym mis Mai. Bydd casgliadau trafodaethau'r grwpiau ffocws yn helpu i lywio'r adroddiad a'r argymhellion. Byddwch yn gallu gweld yr adroddiad llawn yma pan fydd wedi'i gwblhau: www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8523