Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc - Ymgynghoriad i Bil Addysg (Cymru)

Cyhoeddwyd 25/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2013

Cyflwynwyd Bil Addysg (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Huw Lewis AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Dros y misoedd diwethaf mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn brysur yn cynnal grwpiau ffocws ar draws Gymru i drafod gwahanol agweddau o Bil Addysg (Cymru). Mae’n nhw hefyd wedi bod yn darparu holiaduron i rieni, athrawon a cymorthyddion dosbarth i ofyn iddyn nhw am harmoneiddio dyddiadau tymor ysgol. Yn ystod y grwpiau ffocws, sydd wedi cael ei gynnal hefo Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam, UNISON Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Cyngor Sir Mynwy, ymysg grwpiau eraill, mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn trafod dau agwedd o’r Bil gydag cyfranogwyr. Yr agwedd cyntaf oedd cofrestru a rheoleiddio athrawon a’r gweithlu ehangach. Bu i gyfranogwyr drafod beth fyddai’r manteision o gael bwrdd cofrestru ar gyfer y gweithlu ehangach a pa anfanteision fyddai’n debyg o godi. Bu iddyn nhw hefyd drafod petai nhw, a cyd-weithiwyr, eisiau cofrestru gydag bwrdd cofrestru. Yr ail agwedd oedd asesiad AAA ôl-16 mewn ysgolion. Bu i gyfranogwyr drafod y darpariaeth sydd ar gael yn barod i ddysgwyr a beth fyddai’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu i ddysgwyr ar draws Cymru. Byddai’r tîm Allgymorth a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn hoffi diolch i’r holl cyfranogwyr sydd wedi cymeryd rhan mewn grwp ffocws neu wedi cymeryd yr amser i lenwi holiadur yn ystod yr ymgynghoriad yma. Am fwy o wybodaeth am Bil Addysg (Cymru) cliciwch yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7186