Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - ymweliadau safle

Cyhoeddwyd 06/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/03/2014

Ar ddydd Iau 20 Chwefror 2014 bu i aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ymweld â dau grŵp o rieni i drafod materion o amgylch ymgysylltiad rhieni mewn ysgolion, yn rhan o ymchwiliad maent yn eu gynnal sydd yn anelu at adolygu effeithiolrwydd polisiau Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â’r bwlch a welir yng nghanlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel ymhob cyfnod allweddol. Aeth Angela Burns AC, Keith Davies AC, Rebecca Evans AC, Bethan Jenkins AC, Lynne Neagle AC a David Rees AC, i gyd yn aelodau o’r Pwyllgor, i Ganolfan Teulu Bonymaen yn Abertawe, cyn cyfarfod hefo grwp arall o rieni sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau gyda’r clwstwr Cymunedau’n Gyntaf lleol. Yn y cyfamser, aeth Aled Roberts AC a Suzy Davies AC, hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor, i gyfarfod Grŵp Cefnogaeth Teulu Gwenfro lle bu iddynt gyfarfod grŵp o rieni sydd yn aml yn cyfarfod ar gyfer amryw o gyrsiau hyfforddiant. Cymunedau Cyntaf Roedd y cwestiynau gofynnwyd i'r grŵp yn cynnwys: - Beth mae ysgolion yn eu gwneud i helpu plant o gartrefi incwm isel; - Beth mae ysgolion yn eu gwneud i helpu rhieni i gymryd rhan yn addysg eu plant; - Pan mae ysgolion yn ceisio cael rhieni yn cymryd rhan, beth sydd yn gweithio’n dda/ beth nad yw’n gweithio’n dda; - Beth yw’r rhwystrau mae rhieni yn eu hwynebu wrth gymryd rhan yn addysg eu plant. Roedd y ddau sesiwn yn hynod o fuddiol, ac byddent yn cynorthwyo’r Pwyllgor yn eu sesiynnau cwestiynnu pan yn trafod hefo grwpiau, sefydliadau a swyddogion y Llywodraeth mewn sesiynnau tystiolaeth yn y Senedd, ar gyfer eu ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel sydd yn gallu cael ei wylio ar www.senedd.tv Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jo Thomas, Rheolwr Cymunedau’n Gyntaf clwstwr Dwyrain Abertawe, ac i Pat Kearsley, Fforwm Blynyddoedd Cynnar Wrecam am drefnu’r ymweliadau.