Ymweliadau Allgymorth a Pwyllgor â Sefydliad Alacrity, Casnewydd a Rhwydwaith Menter Busnes Sir y Fflint, Glannau Dyfrdwy

Cyhoeddwyd 12/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2013

Ddydd Iau, 6 Mehefin, bu Aelodau’r Cynulliad yn ymweld â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Ranbarthol yng Nglannau Dyfrdwy i siarad ag entrepreneuriaid ifanc, cynghorwyr a staff ar gyfer yr ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc yng Nghymru. Clywodd y pum Aelod Cynulliad a aeth i Gasnewydd gyflwyniad gan Simon Gibson a Raman Mistry, a fu’n siarad am hanes Sefydliad Alacrity. Rhannodd yr Aelodau i ddau grŵp; y cyntaf i siarad â’r cynghorwyr a’r ail i siarad wyneb yn wyneb â’r myfyrwyr a gefnogir gan y Sefydliad er mwyn dysgu rhagor am eu profiadau. [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=z3MCDx0i0rE] Bu Aelodau’r Cynulliad a aeth i Lannau Dyfrdwy yn cymryd rhan mewn gweithdy adnoddau dynol, cyn cynnal trafodaethau ag aelodau ifanc o’r Clwb Menter, staff a chynghorwyr. Daeth y sesiwn i ben â sesiwn adborth, lle’r bu’r cyfranogwyr ac Aelodau’r Cynulliad yn trafod y materion a godwyd yn ystod y diwrnod. Rhwydwaith Menter Busnes Sir y Fflint Dywedodd Simon Gibson, Ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity pan gafodd ei sefydlu, yr hyn a ganlyn am bwysigrwydd ymweliadau fel hyn: “Credaf fod pawb yn elwa o’r ymweliadau hyn; rydym yn cael adborth gan Aelodau’r Cynulliad, ond credaf mai’r hyn sy’r un mor bwysig yw eich bod yn gweld y sefyllfa fel ag y mae pan rydych yn mynd allan i’r maes i gael gwybod beth yw’r materion gwirioneddol sy’n codi; rwy’n cymeradwyo swyddogion ac Aelodau’r Cynulliad am roi o’u hamser i wneud hynny, ac rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith eu bod wedi gwrando arnom.” Mae tîm Allgymorth y Cynulliad wedi bod yn cyfweld ag entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru, a’r staff a’r cynghorwyr sy’n eu cefnogi, a bydd fideos o’r cyfweliadau hyn yn cael eu dangos ar y blog hwn yn y dyfodol agos. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=6052 Diolchwn i Raman Mistry a Simon Gibson o Sefydliad Alacrity ac Askar Sheibani a Sharon Jones o Rwydwaith Menter Busnes Sir y Fflint am drefnu’r sesiynau hyn ac am eu croeso ar y diwrnod.