226 o ddeisebau yn barod – system ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i lwyddo

Cyhoeddwyd 04/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

226 o ddeisebau yn barod – system ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i lwyddo  

4 Awst 2011

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi edrych ar fwy na 200 o ddeisebau ers cyflwyno’r system ddeisebau yn 2007.

Daw’r newyddion hwn ar y diwrnod y mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’r deisebau gyntaf o’i system e-ddeisebau, ac mae’n profi y gall pleidleiswyr ddylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau.

Er enghraifft, cafodd y Pwyllgor ddeiseb oddi wrth Sustrans Cymru ym mis Hydref 2007 yn galw am lwybrau beicio mwy diogel yng Nghymru.

Edrychodd Aelodau’r Pwyllgor ar y ddeiseb a’i hanfon ymlaen at y Pwyllgor Menter a Dysgu, a gefnogodd cynlluniau ar gyfer cyfraith newydd.  

Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cyflwyno deddf o’r fath yn ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.

“Mae ein system ddeisebau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn enghraifft o sut y gall pleidleiswyr ddylanwadu yn uniongyrchol ar lunio polisiau,” meddai William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

“Gall fod yn esiampl i weinyddiaethau a llywodraethau eraill mewn rhannau eraill o’r DU, ynghylch sut y gallant wneud y math hwn o waith ymgynghori uniongyrchol.

Byddwn yn parhau i edrych ar yr holl ddeisebau sy’n ymwneud a materion datganoledig a byddwn yn annog pawb yng Nghymru i barhau i ddefnyddio’r system ddeisebau, sydd wedi profi i fod yn un llwyddiannus. Mae’r broses ddeisebau yn enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith”.

I weld fideo sy’n esbonio’r system ddeisebau yn y Cynulliad, neu edrychwch ar y wefan e-ddeisebau.