A ddylai’r Cynulliad gael y pwer i wneud deddfwriaeth ar roi organau? - dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 12/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

A ddylai’r Cynulliad gael y pwer i wneud deddfwriaeth ar roi organau? - dweud eich dweud

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 yn ystyried Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) 2011 ar hyn o bryd.

Os caiff ei gymeradwyo, byddai’n rhoi’r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu ar sut y ceir caniatâd i ddefnyddio corff ac organau oedolyn at ddiben eu trawsblannu.

Mae’r Pwyllgor am glywed yn awr beth mae pobl Cymru’n ei feddwl o’r cynnig hwn.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hwn yn fater emosiynol iawn i nifer o bobl ledled Cymru”.

“Rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r Pwyllgor hwn ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y pwer i wneud deddfwriaeth yn y maes hwn, a dyna’r mater y byddwn yn ei astudio.

“Mae’n bwysig nodi bod hyn yn ymwneud â throsglwyddo pwerau ar hyn o bryd yn hytrach na’r cwestiwn penodol ynghylch fformat posibl unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a dyna yw’r mater y bydd y Pwyllgor yn craffu arno”.

Mae’r Pwyllgor yn gofyn i bartïon sydd â diddordeb a fyddent yn fodlon pe bai Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cael y gallu i wneud deddfwriaeth ar roi organau, fel y nodir yn y Gorchymyn arfaethedig.

Gellir gweld yr holiadur a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor yma.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 21 Ionawr 2011.

Ceir rhagor o fanylion am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yma.