A wnaethoch chi fethu’r digwyddiad Gwleidyddiaeth a Phobl Ifanc?

Cyhoeddwyd 13/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

A wnaethoch chi fethu’r digwyddiad Gwleidyddiaeth a Phobl Ifanc?

13 Hydref 2011

Os na wnaethoch lwyddo i fynd i’r digwyddiad Gwleidyddiaeth a Phobl Ifanc yn y Pierhead, ceir fideos, clipiau sain a lluniau o’r digwyddiad isod.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Nia Medi, sy’n ddarlledwr ac yn gyflwynydd ar BBC Radio Cymru, ac roedd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn gofyn cwestiynau i Christine Chapman AC, Bethan Jenkins AC, David Melding AC, Eluned Parrott AC, ac Aled Jones, sef Cadeirydd Fforwm Ieuenctid Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Nia Medi yn siarad gyda myfyrwyr Coleg Gwent am y digwyddiad (mp3)

Cwestiwn ar oedran pleidleisio (mp3)